Gofynion i geisiadau Cyllid y Cynllun Twf:
Addas yn Strategol:
- Y sgôp fydd y rhaglen gyfan sy'n cynnwys Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, Tir ac Eiddo ac Ynni Carbon Isel. Dylai cynigion i'r rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth bwysleisio cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig.
- Bydd cynigion sy'n gallu cyflawni yn erbyn nodau/amcanion y rhaglen yn cael eu croesawu.
- Rhaid i noddwyr prosiect ymrwymo i gyflawni yn erbyn egwyddorion caffael a datganiad safbwynt newid hinsawdd y Bwrdd.
Effaith:
Tir ac Eiddo: Bydd angen i geisiadau:
|
Bwyd-amaeth a Thwristiaeth: Bydd angen i geisiadau:
|
Ynni Carbon Isel: Bydd angen i geisiadau:
|
- Gellir ystyried cynigion nad ydynt yn bodloni'r holl criteria uchod ar sail eithriad lle gallant ddangos effaith ranbarthol neu leol sylweddol.
Gallu i Gyflawni:
- Bydd angen nodi'r holl ffynonellau cyllido fel lleiafswm.
- Rhaid i safle arfaethedig gael ei ddyrannu mewn Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig/arfaethedig neu'n gydnaws â pholisi'r Cynllun Datblygu sefydledig.
- Os nad yw'r safle ym mherchnogaeth noddwr y prosiect, yna mae'n rhaid i gytundebau fod yn eu lle gyda phob tirfeddianwyr.
- Rhaid i bob cynnig fod yn gydnaws â rheolau rheoli cymhorthdal.
Bydd cynigion hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer prosiectau sy'n rhan o'n rhaglenni Cysylltedd Digidol ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel lle gall prosiectau ddangos llawer mwy o effaith o ran swyddi a buddsoddiad na'r meini prawf gofynnol a nodir ar gyfer y rhaglenni eraill.