Nid yw cyllid y Cynllun Twf yn addas ar gyfer pob prosiect a dylai ymgeiswyr ystyried y gofynion a nodir isod cyn gwneud cais. Yn benodol:

 

Cyllid

  • Dim ond cyllid cyfalaf y gall y Cynllun Twf ei ddarparu ar gyfer eich prosiect. Bydd angen i chi ddangos:
    • y gallwch ariannu'r gwaith o ddatblygu'r achos busnes
    • bod model ariannu refeniw y prosiect yn gynaliadwy
  • Darperir cyllid fel ôl-daliad yn ddarostyngedig i hawliad. Mae gofyn i chi ddarparu cyllid cyfalaf cyfatebol ar gyfer eich prosiect.
  • Ni ellir cyfrif cyllid refeniw fel cyllid cyfalaf oherwydd bod targed buddsoddiad sector preifat y Cynllun Twf yn seiliedig ar gyllid cyfalaf yn unig.

 

Datblygu'r Achos Busnes

  • Os bydd eich prosiect yn llwyddiannus, bydd angen i chi ddatblygu achos busnes pum achos yn unol â Chanllawiau Better Business Case a Llyfr Gwyrdd Trysorlys EF. Bydd angen i'r achos busnes gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd er mwyn sicrhau'r cyllid.
  • Mae'r broses fel arfer yn cynnwys tri cham cymeradwyaeth:
    • Achos Amlinellol Strategol (SOC) - sy'n nodi'r cyd-destun strategol ar gyfer y prosiect a'r achos dros newid
    • Achos Busnes Amlinellol (OBC) - sy'n cadarnhau gwerth am arian a fforddiadwyedd; egluro'r prosiect a'r trefniadau rheoli.
    • Achos Busnes Llawn (FBC) - caffael y datrysiad a chynllunio ar gyfer cyflawni'n llwyddiannus
  • Byddwch yn gyfrifol am gostau datblygu'r achosion busnes.
  • Unwaith y bydd yr Achos Busnes Llawn wedi'i gymeradwyo, caiff cytundeb ariannu ei lofnodi rhwng eich sefydliad chi ac Uchelgais Gogledd Cymru.

 

Llywodraethu a Sicrwydd

  • Mae gofyn i brosiectau:
    • fod wedi penodi Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO) a bwrdd prosiect
    • adrodd yn fisol i'r Bwrdd Rhaglen perthnasol o fewn y Cynllun Twf
    • mynd drwy Adolygiadau Porth yr Office of Government Commerce (OGC) ar adegau allweddol yn ystod y gwaith o ddatblygu'r prosiect. Mae'r adolygiadau sicrwydd allanol hyn yn rhan allweddol o'n fframwaith sicrwydd sydd wedi'i gytuno gyda Llywodraethau Cymru a'r DU.
  • Yn ogystal, caiff achosion busnes eu hadolygu gan:
    • y Swyddfa Rheoli Portffolio fel rhan o'r broses sicrwydd.
    • y Bwrdd Uchelgais Economaidd unwaith y caiff ei gadarnhau gan y Bwrdd Rhaglen perthnasol a'r Bwrdd Portffolio. Ar y cam Achos Busnes Amlinellol, mae cam cymeradwyaeth sicrwydd ychwanegol a wneir gan Lywodraeth Cymru.

 

Allyriadau Carbon a Bioamrywiaeth

  • Dylech ddangos sut bydd eich prosiect yn bodloni ymrwymiadau Uchelgais Gogledd Cymru i:
  • greu allyriadau carbon sero net wrth weithredu
  • lleihau allyriadau carbon 40 y cant yn ystod y gwaith adeiladu;
  • gyrru cynnydd o 10 y cant mewn bioamrywiaeth

Nod holl brosiectau'r Cynllun Twf yw bodloni'r ymrwymiadau hyn a chânt eu cefnogi i wneud hynny gan Fethodoleg allyriadau carbon a bioamrywiaeth a ddatblygwyd ar y cyd gydag Arup. Darllenwch y fersiwn cryno hwn neu gofynnwch am y fersiwn llawn drwy anfon e-bost at adnoddau@uchelgaisgogledd.cymru

 

Caffael a Gwerth Cymdeithasol

  • Rhaid i gaffael fod yn unol â'r egwyddorion caffael sydd wedi'u mabwysiadu gan Uchelgais Gogledd Cymru
  • Rhaid i'r dull/fanyleb caffael gael eu cymeradwyo fel rhan o gymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol cyn dechrau caffael;
  • Mae gan Uchelgais Gogledd Cymru Fframwaith Gwerth Cymdeithasol a bydd yn gweithio gyda'r ymgeisydd llwyddiannus i deilwra hwn i gyd-fynd â'r prosiect. Rhaid i bob caffaeliad gynnwys pwysoliad gwerth cymdeithasol o 15% yn y sgôr.

 

Monitro, Gwerthuso a Gwireddu Buddion

  • Mae gofyn i'r Cynllun Twf gyflawni cyfres o fuddion portffolio gan gynnwys swyddi a buddsoddiad dros gyfnod o bymtheg mlynedd. Yn unol â holl brosiectau'r Cynllun Twf, bydd angen i'ch prosiect chi gynhyrchu:
  • Cynllun Gwireddu Buddion - yn egluro sut y bydd yn cyflawni yn erbyn buddion y portffolio. Bydd angen adroddiad cyflawni buddion bob chwe mis drwy gydol y cam gwireddu buddion.
  • Cynllun Monitro a Gwerthuso - disgrifio'r dull asesu a'r trefniadau sydd yn eu lle.
  • Adroddiadau uchafbwyntiau misol y prosiect - i olrhain a chofnodi cynnydd.
  • Gwneir gwerthusiad annibynnol bob 3-5 mlynedd i asesu a chadarnhau a yw'r buddion a gyflawnir ar drac yn erbyn y cynllun.

Mae templedi ar gael gan y Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

Brand a Marchnata / Cyfathrebu

  • Rhaid i'r prosiect llwyddiannus gyd-fynd â chanllawiau brand Uchelgais Gogledd Cymru, gan gynnwys sicrhau bod unrhyw ddeunydd wedi'i frandio'n briodol gyda logo Uchelgais Gogledd Cymru, ynghyd â logos Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
  • Hefyd, rhaid defnyddio'r brand yma ar holl ddogfennau cyhoeddus neu weithgareddau cyfathrebu, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i graffig cyfryngau cymdeithasol, blogiau a datganiadau i'r wasg.
  • Rhaid i bob datganiad i'r wasg, erthygl nodwedd neu hysbysebion gydnabod y Cyllid sydd wedi'i ddyfarnu.
  • Rhaid i'r prosiect llwyddiannus ddangos plac coffaol gyda logo Uchelgais Gogledd Cymru a logos Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y lle mwyaf cyhoeddus posib e.e. yn y fynedfa. Darperir y plac gan Uchelgais Gogledd Cymru.

 

Y Gymraeg

  • Rhaid i'r holl wybodaeth a'r deunydd cyhoeddusrwydd fod yn gwbl hygyrch ac ar gael i gynulleidfa eang ac amrywiol a rhaid iddynt ddilyn y safonau sydd wedi'u hamlinellu ym Mesur y Gymraeg.
  • Rhaid i'r prosiect llwyddiannus sicrhau nad yw'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, yn unol â Mesur y Gymraeg.