Cyllid y Cynllun Twf
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn chwilio am brosiectau uchelgeisiol, arloesol a thrawsnewidiol a fydd yn darparu swyddi, twf a buddsoddiad yn y rhanbarth.
Yn dilyn tynnu dau brosiect Cynllun Twf Gogledd Cymru yn ôl yn hwyr yn 2022, mae’r Bwrdd Uchelgais wedi cymeradwyo dyraniad o £13 miliwn ar gyfer prosiectau newydd yn eu lle.
Dylai’r prosiectau newydd ddangos cyflawniad yn erbyn targedau’r Cynllun Twf ac amcanion y naill neu’r llall o’r ddwy raglen isod
Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan brosiectau sy’n perthyn i’n tair rhaglen arall. Gall y datganiadau yma gael eu hystyried hwyrach ymlaen pe bai cyllid pellach ar gael:
Mae penderfyniad llawn y Bwrdd yma.
Bydd ceisiadau yn agor yn fuan, tanysgrifiwch isod i gael gwybod y diweddaraf.
Other news
-
26MaiGrŵp Clwstwr Sgiliau Digidol Gogledd Cymru yn penodi Is-gadeirydd newydd
-
31MawSwyddogion newydd i roi hwb i'r sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru
Croesawu dau aelod newydd o staff i ymuno â’r Tîm Ynni Carbon Isel , gyda'r obaith bydd y ddwy rôl yn rhoi hwb i’r sector yng Ngogledd Cymru. Symudodd Danial Ellis Evans a Rhianne Massin i’r ardal o Gaerdydd yn ddiweddar, gan ddechrau ar eu swyddi fel Swyddogion Prosiect Ynni.