Prosiect:

Hwb Hydrogen

Trosolwg:

Bydd y prosiect hwn yn rhoi hwb i economi hydrogen yng Ngogledd Cymru drwy gefnogi a darparu canolbwynt hydrogen.

Bydd y hwb yn cyflenwi a defnyddio hydrogen, gyda hyd at £11.2m o gyfalaf y Cynllun Twf yn mynd tuag at alluogi galw, gan drosi sefydliadau tanwydd ffosil heddiw yn gwsmeriaid hydrogen yfory.

Mi fyddwn yn lansio proses gystadleuol i benodi sefydliad(au) i ddatblygu a chyflawni’r prosiect, hwyrach blwyddyn yma.

 

Prif Noddwr:

Amcanion

GVA Ychwanegol

Cynhyrchu hyd at £35 miliwn o GVA ychwanegol net

Creu Swyddi

Creu hyd at 90 o swyddi i'r rhanbarth

Datgarboneiddio

Arbedion carbon drwy amnewid tanwyddau ffosil gyda gwyrdd

Targedau Buddsoddi

£11.2m

Cynllun Twf

£11.5m

Sector Cyhoeddus Arall

£5.7m

Sector Breifat

£28.4m

Cyfanswm Buddsoddiad

Pa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?

Cam01.
Pennu cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam07.
Gweithredru a monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Prif Aelodau

  • Katie Wilby Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), Cyngor Sir y Fflint
  • Elgan Roberts Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel