Darn Barn gan Jamie Thomas, Swyddog Marchnata a Digwyddiadau M-SParc
Beth bynnag eich diwydiant, ble bynnag yr ydych yn gweithio, bydd eich nodau’n amrywio o ran yr hyn sy’n diffinio llwyddiant o un gweithle i’r llall, ond yr hyn a ddylai ein huno yw’r awydd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, ac ni ddylem byth anghofio pwysigrwydd hynny.
Dyna pam, cyn belled fy mod i’n ddigon ffodus i weithio yn M-SParc, bydd yr Ŵyl Sgiliau Digidol yn uchafbwynt blynyddol i mi.
Croesawyd dros 250 o bobl i sesiynau M-SParc yn ystod yr ŵyl, gan gyrraedd pobl mor ifanc ag wyth oed yr holl ffordd hyd at fyfyrwyr ôl-raddedig, gan ddarparu gweithdai rhagorol, deniadol yn addysgu ym meysydd codio, CAD/CAM, Dylunio, Datblygu Meddalwedd, a roedd pawb yn M-SParc – o gyfranogwyr i ddarparwyr – wedi’u hysbrydoli’n llwyr!
Roedd yn wych gweithio gyda Thîm F1 Aston Martin, Technocamps a STEM Cymru i gyflwyno’r sesiynau, a’r effaith gyffredinol a gafodd yr ŵyl – yn enwedig ar y cyfranogwyr iau – yw ei bod yn dangos yr hyn sy’n bosibl a’r hyn y gall ein pobl ifanc ei gyflawni os ydynt 'yn cael yr offer i lwyddo ac i ddysgu heb derfynau.
Dau beth sydd wir yn sefyll allan i mi o’r wythnos i’w pwysleisio oedd, yn gyntaf, cael Michael Leonard o Aston Martin F1 gyda ni yn ystod yr wythnos ac, yn ail, gweld plant ysgol gynradd eisoes ar lefel mor ddatblygedig gyda rhai o’u sgiliau digidol.
Yn achos Michael, mae’n ddyn ifanc o Ynys Môn a oedd, yn 11 oed, wedi’i ysgogi’n llwyr i gyrraedd hudoliaeth Fformiwla 1. Nawr, ychydig dros 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae yno ac mae wedi dylunio a chreu rhannau ar gyfer ceir sydd wedi ennill rasiau ar y lefel uchaf. I'r plant gael cyfarfod ag ef, clywed ei stori, a gweld â'u llygaid eu hunain bod unrhyw beth yn bosibl … am brofiad!
Ein cyfrifoldeb ni nawr fel diwydiant ac fel pobl sy’n angerddol am ddyfodol ein pobl ifanc, ochr yn ochr â sefydliadau addysgol, yw gwneud yn siŵr bod popeth yn ei le er mwyn i’r genhedlaeth nesaf gael yr un uchelgeisiau ochr yn ochr â llwybr a’r hyder i’w cyflawni.
Y Bartneriaeth Sgilau Rhanbarthol (PSR) ar gyfer Gogledd Cymru sydd â’r dasg o ymateb i’r her o ddatblygu sgiliau digidol lleol drwy’r ‘Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sgiliau Digidol’. Mae’r grŵp yn dod â chyflogwyr lleol allweddol at ei gilydd i nodi bylchau sgiliau presennol ac yn y dyfodol ar draws y rhanbarth mewn syddi TG, digidol a technoleg gwerth uchel. Mae’r grŵp yn cyfle i gyflogwyr leisio eu pryderon a phroblemau gyda’r nod o wneud y gorau o’u gwybodaeth a’u profiad ar draws ystod eang o ddiwydiannau a dod o hyd i atebion arloesol i lywio darpariaeth yn y dyfodol i gynorthwyo talent newydd.
Rhaid i ddatblygu’r llwybr a galluogi’r hyder hwnnw’n effeithiol ac yn gyflym fod yn ystyriaethau hollbwysig i bob un ohonom wrth symud ymlaen, yn enwedig pan fyddwch yn ystyried y buddsoddiad sylweddol sy’n dod i’r rhanbarth fel rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld effaith prosiectau’r Cynllun Twf yn y rhanbarth, a fydd yn sicrhau gwariant cyfalaf sylweddol yn y gogledd, gan ddatblygu seilwaith anhygoel ar draws ystod eang o sectorau a meysydd sy’n hanfodol i dwf y rhanbarth.
Er hynny, ochr yn ochr â’r buddsoddiad unwaith-mewn-oes hwn, mae gennym ddyletswydd fel rhanbarth i sicrhau bod y sgiliau yn eu lle yn lleol i fanteisio ar y gyrfaoedd a grëir o ganlyniad i’r gwariant hwn.
Os nad yw’r sgiliau hynny yno, fyddwn ni byth yn sylweddoli gwir werth y symiau anhygoel hyn o arian, ac mae hynny’n rhan o’r hyn oedd yr Ŵyl Sgiliau Digidol yn ei olygu.
Mae gan Lywodraeth Cymru, ein hunain yn M-SParc, STEM Cymru, y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a gormod o bartneriaid eraill i’w rhestru i gyd rôl hanfodol i’w chwarae wrth ddatblygu’r sgiliau hynny a chreu’r amgylcheddau lle gall pobl ifanc ffynnu, cael uchelgeisiau, a’u gwireddu yn lleol.
Roedd yr Ŵyl Sgiliau Digidol yn un o nifer o gamau sy’n cael eu cymryd ar draws y rhanbarth i gyflawni hynny – mae llawer o waith i’w wneud, ond rydym ni yn M-SParc yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wireddu’r Dyfodol Sgiliau Digidol sydd ei angen arnom. Os ydych chi'n teimlo bod rhaid i chi ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, fel rydyn ni'n ei wneud, hoffem glywed gennych chi yn M-SParc!