Mae'r tendr ar gyfer Gwasanaethau Cynghori Cronfa ar gyfer Cronfa Ynni Glân Uchelgais Gogledd Cymru yn awr yn fyw.
Fe wnaethom sicrhau dros £1m o Gyllid Ffyniant Gyffredin i gyflawni'r prosiectau canlynol, sy'n ategu'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Twf:
-
Cefnogaeth Cysylltedd Digidol Gwledig
Darparu cymorth i gymunedau wella eu cysylltedd band eang.
-
Mynediad i Ynni Lleol Blaengar
Mae grant cymorth ysgrifennu bidiau (h.y. help/gwybodaeth i baratoi ar gyfer ceisiadau ariannu) wedi'i lansio ar gyfer sefydliadau cymunedol bychain a mentrau bychain sydd â Phrosiect "Ynni Glân / Datgarboneiddio" amlinellol a fydd angen cyllid cyfalaf yn y dyfodol agos ac sy'n medru dangos pam eu bod angen cymorth ysgrifennu bid.
-
Asesiadau Cysylltedd Busnesau Bach a Chanolig (SME)
Darparu cyngor busnes ac arweiniad penodol i fusnesau bach a chanolig (SMEs) ar sut y gallant fabwysiadu'r technolegau rhwydwaith di-wifr diweddaraf i wella cynhyrchiant ac arloesedd.
Uchelgais Gogledd Cymru
Rydym yn cydweithio i adnabod a chreu cyfleoedd fydd yn datblygu ein heconomi. Byddwn yn hyderus a chydlynol, yn canolbwyntio ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru.
Cynllun Twf Gogledd Cymru
Bydd pum rhaglen y Cynllun Twf yn dod â buddsoddiad o £1 biliwn i Ogledd Cymru erbyn 2036. Gan greu economi fywiog, gynaliadwy, gydnerth a ffyniannus i'r holl ranbarth.