Fe wnaeth adolygiad o brosiectau Cynllun Twf Gogledd Cymru gan Uchelgais Gogledd Cymru ryddhau cyllid cychwynnol o £51m. Dilynwyd hyn gan broses mynegi diddordeb lle cyflwynodd ein partneriaid eu cynigion sector cyhoeddus a phreifat.

Mae'r prosiectau a oedd yn gryf o ran effaith, gallu i gyflawni, ac yn cyd-fynd â nodau'r Cynllun Twf, wedi'u rhoi ar Restr Wrth Gefn. Maen nhw nawr yn cael y cyfle i fidio am ran o gyllid y Cynllun Twf sydd heb ei ddyrannu yn y dyfodol.

Nod hyn yw cyflymu twf rhanbarthol drwy gyflawni prosiectau economaidd cynaliadwy ledled y Gogledd, a fydd yn creu swyddi ac yn bodloni ymrwymiadau amgylcheddol. 

Mae'r prosiectau sydd ar y rhestr wrth gefn isod:

Hwb Iechyd Bangor

Datblygu Hwb Iechyd a Lles integredig mewn hen ganolfan siopa wag yng nghanol dinas Bangor.

Datblygiad Gwesty Queen's Market

Darparu gwesty canolig o ran maint a graddfa - rhan allweddol o uwchgynllun ehangach sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer yr ardal ar hyn o bryd.

⁠Parc Busnes Llanelwy - Llety Symud Ymlaen ⁠

Datblygu unedau diwydiannol uwch-dechnoleg ym Mharc Busnes Llanelwy. 

Porth Caergybi

Bwriad y prosiect hwn yn gwella capasiti'r porthladd trwy adfer tir (creu tir newydd o'r môr) yn yr harbwr. Wrth wneud hyn, y nod yw sicrhau bod y porthladd yn gallu cwrdd â gofynion cynyddol ymweliadau busnes a thwristiaeth. Mae'r porthladd yn un o'r llwybrau trafnidiaeth prysuraf rhwng y DU ac Iwerddon. Fel ail borthladd prysuraf y DU mae'n gyswllt trafnidiaeth pwysig rhwng y ddwy wlad.

Porth y Gorllewin

Bydd y prosiect hwn yn darparu gwasanaethau sylfaenol fel pŵer, telegyfathrebu a dŵr ar gyfer datblygu adeiladau cyflogaeth a busnes. Wrth wneud hyn, y nod yw denu buddsoddiad sector preifat, darparu cyfleoedd i fusnesau adleoli, ehangu a chreu swyddi newydd. Mae’r safle ger Cyffordd 4 yr A483, Parc Technoleg Wrecsam ac Ysbyty Maelor, Wrecsam.