Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sef https://uchelgaisgogledd.cymru .

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru sy'n cynnal y wefan.  Rydym eisiau i gymaint o bobl âphosib allu ei ddefnyddio.  Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu:

  • closio i mewn hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin 
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig 
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan (yn Saesneg) drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiwn fwyaf diweddar o NVDA, TalkBack a VoiceOver).

 

Pa mor hygyrch ydi'r wefan 

Rydym yn ymwybodol nad yw rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:

  • nid yw dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrin - gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion isod i ofyn am fformatau amgen 
  • nid yw'n bosib llywio rhannau o'r wefan yn ddefnyddio bysellfwrdd
  • nid yw rhai lincs na delweddau ar y wefan yn hygyrch. 

 

Adborth a manylion cyswllt 

Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd i'w ddarllen, braille ac yn y blaen, cysylltwch â: 

Byddwn yn ystytied eich cais ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith. 

 

Rhoi gwybod i ni am broblemau efo'r wefan 

Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o wella hygyrchedd ar y wefan.  Os ydych yn dod ar draws problem sydd ddim yn cael ei rhestru ar y dudalen hone, neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch a ni: gwefan@uchelgaisgogledd.cymru

 
Gweithdrefn orfodi 

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiadau Symunol)(Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').  Os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).


Cysylltu â ni 

Mae nifer o wahanol ffyrdd o gysylltu â ni: https://uchelgaisgogledd.cymru/cysylltwch-gyda-ni 

 

Gwybodaeth technegol am hygyrched ar y wefan 

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws cydymffurfiaeth

Fel lleiafswm rydym yn anelu i fodloni a chynnal safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.


Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill: Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. 

Cysylltwch a ni am fformat gwahanol. 

 

Paratoi y datganiad hygyrchedd hwn 

Cafodd y datganiad hwn ei lunio ar 24 Tachwedd 2021. Cafodd holl dudalennau ein gwefan eu profi ddiwethaf gan Tinint at 24 Tachwedd 2021.