Mae sawl ffordd o gymryd rhan yng ngwaith Uchelgais Gogledd Cymru a rhannu eich adborth. Edrychwch ar yr opsiynau isod i gael gwybod mwy.
Rydym bob amser yn gwerthfawrogi derbyn canmoliaeth am wasanaeth da gan Uchelgais Gogledd Cymru, neu os ydych am ganmol ein staff am wneud gwaith da. Cwblhewch y ffurflen adborth isod a’i anfon at adborth@uchelgaisgogledd.cymru.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am ein gwasanaethau. Ein nod yw rhoi eglurhad i unrhyw faterion yr ydych yn ansicr yn eu cylch. Byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau y gallwn fod wedi'u gwneud, os yw hynny'n bosib.
Os ydym wedi gwneud rhywbeth o'i le, fe wnawn ymddiheuro, a lle bynnag bo hynny'n bosib, byddwn yn ceisio cywiro pethau i chi. Rydym eisiau dysgu o'n camgymeriadau a defnyddio'r wybodaeth a gawn o gwynion i wella ein gwasanaethau.
Rydym wedi datblygu'r weithdrefn gwynion hon fel ei bod yn rhoi pwyslais ar ddysgu gwersi i'n helpu i adnabod pryderon pobl y rhanbarth a gwella ein gwasanaethau.
Mae ein Polisi Cwynion yn egluro beth i'w wneud os oes gennych gŵyn neu bryder am Uchelgais Gogledd Cymru neu ein gweithgareddau.
Cwblhewch y ffurflen adborth drwy ei lawrlwytho isod a’i anfon at adborth@uchelgaisgogledd.cymru i gyflwyno eich cŵyn.
Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth Uchelgais Gogledd Cymru â Safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ein rhan i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, defnyddiwch ein gweithdrefn gwyno.
Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg hefyd.
O bryd i'w gilydd bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn ymgynghori gyda pobl leol ar faterion eang sy'n effeithio'r rhanbarth, bydd manylion ymgynghoriadau ar gael yma.