I ddod yn fuan

 

Yn fuan, byddwn yn lansio cronfa grant newydd i gefnogi eich cynlluniau i uwchraddio neu wella eich dewis o systemau di-wifr uwch.

Beth yw Technolegau Di-wifr Uwch?

5G

Rhwydweithiau 5G cyhoeddus a phreifat

Wi-Fi

Technoleg rhwydwaith di-wifr

IoT

Y Rhyngrwyd Pethau

Lloeren

Cyfathrebu lloeren

Mae technolegau di-wifr uwch yn chwyldroi sawl diwydiant wrth ddarparu cysylltedd sy'n fwy sefydlog, yn fwy dibynadwy ac yn gyflymach.

Diffinnir technolegau di-wifr uwch gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg y DU fel "technolegau sy'n galluogi trosglwyddo data yn ein heconomi a'n cymdeithas sy'n dod yn fwy digidol - gan gysylltu pobl a phethau. Gall defnyddio systemau di-wifr arwain at ystod o fanteision busnes, yn amrywio o ddefnydd sylfaenol sy'n berthnasol i sefydliadau o bob maint, at integreiddio soffistigedig gyda Deallusrwydd Artiffisial ac, mewn amser, cyfrifiadura cwontwm. Mae technolegau datblygol yn parhau i gyflwyno cyfleoedd newydd ar gyfer arloesedd, megis drwy gynnydd mewn ffotoneg, lloeren cylchdro daear isel a 6G, yn y dyfodol.

Wireless Networking Technologies | UKTIN

 

Yn y cyd-destun hwn, mae technolegau di-wifr uwch yn cynnwys yr ystod lawn o ddatrysiadau di-wifr a ddefnyddir mewn gwasanaethau cyfathrebu. Er y bydd 5G yn faes ffocws sylweddol, rydym hefyd yn cydnabod rôl bwysig technolegau megis Wi-Fi, cyfathrebu lloeren, rhwydweithiau preifat a rhwydweithiau ardal eang pŵer isel.

Ni fydd buddsoddiad yn cael ei gyfyngu i ddiwydiant neu dechnoleg benodol. Yn hytrach, bydd cefnogaeth yn cael ei dylunio i alluogi ystod eang o ddefnyddiau ar draws sawl sector.

Bydd mwy o fanylion ar dechnolegau di-wifr uwch cymwys yn cael eu cyhoeddi yn ein dogfennau canllaw sydd ar y gweill.

Y cyllid sydd ar gael

Bydd cyllid cyfalaf ar gael drwy'r cynllun hwn. Bydd busnesau a sefydliadau sector cyhoeddus sydd wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru yn cael eu gwahodd i wneud cais am grantiau sy'n dechrau ar oddeutu £20,000 fesul cais.

Bydd gofyn i ymgeiswyr gyd-ariannu oddeutu 50% o gostau cyfalaf cymwys ac ariannu unrhyw gostau refeniw cysylltiedig yn llwyr, nad ellir eu cefnogi gan gyllid y Cynllun Twf.

Bydd grantiau yn cael eu dyfarnu ar sail y cyntaf i gymhwyso a gellir eu defnyddio i fuddsoddi mewn technolegau di-wifr uwch sy'n gorfod arwain at fanteision ariannol, cynhyrchedd neu effeithlonrwydd neu fuddion ariannol eraill tra'n arddangos y posibilrwydd o greu swyddi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Mae'r cynllun grant yn ceisio cyflawni'r deilliannau a ganlyn:

  • Creu swyddi yng ngogledd Cymru
  • Cynyddu'r gwerth ychwanegol crynswth (GVA) net
  • Denu buddsoddiad ychwanegol

        

Beth allwch chi ei ddisgwyl? 

Bydd y cynllun grant yn cael ei strwythuro yn broses dau gam gyda rowndiau ariannu:

  1. Mynegiant o Ddiddordeb (EOI)
  2. Cais Llawn

Agwedd bwysicaf eich EOI yw dangos sut bydd eich prosiect yn cwrdd â'r deilliannau uchod, y gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i'ch sefydliad, a pha mor barod ydyw i symud ymlaen i'r cam cyflawni.

Os hoffech fwy o wybodaeth, peidiwch ag oedi i gysylltu â'r tîm UGC ar - digidol@uchelgaisgogledd.cymru