Y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) ar gyfer Gogledd Cymru yw'r strategaeth i gyflawni system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy, fforddiadwy ac integredig ar draws y rhanbarth.

Wedi’i ddatblygu gan Uchelgais Gogledd Cymru – fel Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) y rhanbarth, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, mae’r CTRh yn gosod gweledigaeth feiddgar i wella cysylltedd, lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat, a chefnogi twf economaidd cynhwysol.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar yn 2025 ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft, cafodd adborth ei ystyried yn ofalus a’i ddefnyddio i adolygu’r cynllun a’i ddogfennau cysylltiedig – a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo ym mis Gorffennaf. Cymeradwywyd y fersiwn derfynol honno o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (2025-2030) yn swyddogol gan Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar 28 Hydref 2025.

Bydd awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru yn dechrau cyflwyno cynlluniau’r CTRh ym mis Ebrill 2026, gyda monitro ac adolygu yn cael ei arwain gan Is-bwyllgor Trafnidiaeth y CBC.

Bydd cyflawni’r CTRh a’i flaenoriaethau, yn cefnogi’r economi i ffynnu yn y tymor hir ac mae’n hanfodol ar gyfer gwella cysylltedd a gwella ansawdd bywyd trigolion ac ymwelwyr. Trwy flaenoriaethu buddsoddiadau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith teithio llesol ar gyfer beicio a cherdded, a datblygu atebion symudedd arloesol, nod y CTRh yw lleihau dibyniaeth ar ddefnyddio ceir preifat a hyrwyddo opsiynau teithio mwy ecogyfeillgar.

Yn ogystal, mae’r cynllun yn pwysleisio pwysigrwydd lleihau effaith amgylcheddol negyddol ein rhwydwaith trafnidiaeth, gan gyfrannu at ymrwymiad Gogledd Cymru i gynaladwyedd a lliniaru newid hinsawdd. 

Bydd cyflawni’r CTRh a’i flaenoriaethau’n llwyddiannus yn cefnogi’r economi ranbarthol, yn gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau, ac yn creu system drafnidiaeth fwy cysylltiedig a gwydn ar gyfer y dyfodol.

Trwy gydweithio ag awdurdodau lleol, awdurdod y parc cenedlaethol, Trafnidiaeth Cymru, busnesau lleol a chymunedau, bydd y CTRh yn helpu Gogledd Cymru i drosglwyddo i rwydwaith trafnidiaeth fwy cynaliadwy ac integredig, a fydd o fudd i bawb yn y rhanbarth. 

Gweledigaeth ar gyfer ein rhwydwaith trafnidiaeth:

Bydd gan Ogledd Cymru rwydwaith trafnidiaeth integredig sy'n ddiogel, yn gynaliadwy, yn fforddiadwy, yn wydn ac yn effeithiol sy'n cefnogi twf economaidd, ffyniant i bawb, cynhwysedd a lles.

Cefnogir ein gweledigaeth gan bedwar amcan, a fydd yn ein helpu i fonitro a gwerthuso llwyddiant ein Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

Byddwn yn galluogi 30% neu fwy o bobl yng Ngogledd Cymru i weithio o bell erbyn 2030 trwy gynllunio defnydd tir yn well a gwella cysylltedd digidol, a ddylai leihau'r angen cyffredinol i deithio a galluogi teithiau byrrach sy'n fwy addas ar gyfer dulliau cynaliadwy.

Byddwn yn datblygu isadeiledd a gwasanaethau sy'n rhoi dewis i bobl sut maent yn teithio ar gyfer pob taith ac yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy trwy wella mynediad i aneddleoedd allweddol, cyflogaeth, safleoedd addysgol ac atyniadau twristaidd. Dylid gwella hygyrchedd pob atyniad taith allweddol, gan gefnogi'r targed rhaniad modd cenedlaethol o 45% o deithiau i'w gwneud trwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2040.

Byddwn yn datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gwydn, diogel, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ac effeithlon sy'n sicrhau twf economaidd cynaliadwy drwy wella hygyrchedd i feysydd cyflogaeth presennol a rhai sydd wedi'u cynllunio. Bydd o leiaf 50% o aelwydydd yng Ngogledd Cymru yn gallu teithio'n bellach o fewn un awr ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gefnogi mynediad i safleoedd cyflogaeth allweddol a chanolfannau rhanbarthol erbyn 2030.

Byddwn yn datblygu seilwaith ategol ac yn cefnogi cymhellion i alluogi o leiaf 50% o gerbydau modur a phob bws cyhoeddus sy'n gweithredu yng Ngogledd Cymru i fod yn ddi-allyriadau erbyn 2030.

Dolenni Trafnidiaeth Strategol Ddefnyddiol

Rhwydwaith Gogledd Cymru

Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys nifer o ddyheadau ar gyfer rheilffyrdd yng ngogledd Cymru sy'n unol â chynigion Rhwydwaith Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru.

Datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

Datblygwyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft. Darganfyddwch mwy am y broses lawn.

Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol

Bydd monitro ac adolygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei arwain gan Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.