Comisiynodd Uchelgais Gogledd Cymru waith ymchwil i archwilio statws bwyd-amaeth yn rhanbarth Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth gan chwe Phartneriaeth Bwyd Gogledd Cymru.
Cynhyrchodd Miller Research "Cryfhau Systemau Bwyd Lleol a Rhanbarthol yng Ngogledd Cymru" ym mis Mehefin 2024, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Y prif amcanion oedd asesu graddfa'r cyflenwad a'r galw am fwyd ar draws y rhanbarth a chanfod rhwystrau a galluogwyr allweddol ar gyfer system fwyd leol gryfach. Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn cynnig argymhellion i gwtogi cadwyni cyflenwi a datblygu system fwyd fwy cynaliadwy ar gyfer Gogledd Cymru, gan dynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a refeniw.
Mae'r adroddiad yn darparu:
- treiddgarwch gwirioneddol i siapio dyfodol bwyd-amaeth cynaliadwy er mwyn:
- cwtogi cadwyni cyflenwi bwyd
- creu swyddi
- ysgogi buddsoddiad pellach i Ogledd Cymru
Mae'r prosiect yn cefnogi dull strategol a fydd yn:
- helpu i gryfhau ecosystem bwyd-amaeth Gogledd Cymru
- hyrwyddo iechyd, cynaliadwyedd a thwf economaidd
- cefnogi a gyrru canlyniadau cadarnhaol i'r sector bwyd-amaeth rhanbarthol