Trosolwg

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.

Nod cyffredinol y Gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd.

Nod yr UKSPF yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle;
  • Cefnogi Busnes Lleol; a,
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhaglen 'Lluosi' i wella rhifedd oedolion)

Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa. 

Fe wnaethom sicrhau dros £1m o gyllid Ffyniant Gyffredin i gyflawni'r wyth ffrwd gwaith canlynol sy'n ategu darpariaeth y Cynllun Twf.

Portal Sgiliau a Chyflogaeth

Datblygu Porth Sgiliau a Chyflogaeth ar-lein ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd y porth yn cydnabod busnesau blaenllaw, yn darparu gwybodaeth am brosiectau creu swyddi ar raddfa fawr, yn codi ymwybyddiaeth o swyddi a chyfleoedd yn y dyfodol ac yn ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa o fewn sector blaenoriaeth.

Mynediad i Ynni Lleol Blaengar

Prosiect i gyflenwi grantiau i fusnesau bach a chanolig (SMEs), mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol fel y gallant gaffael ymgynghoriad ar ysgrifennu ceisiadau. Y nod yn y pen draw yw i'r busnesau bach a chanolig, a'r mentrau cymdeithasol, a ddyfarnwyd gael mynediad at gyllid drwy Gronfa Ynni Lleol Blaengar y Cynllun Twf.

Am fwy o wybodaeth

Allyriadau Carbon a Bioamrywiaeth

Rhannu arfer gorau a chyflwyno sesiynau hyfforddi ar sut y dylai ystyriaethau newid hinsawdd lywio datblygiad achos busnes. 

Ymrwymiadau ac Arferion Gorau

Datblygu llwyfan monitro ar-lein ar gyfer ymrwymiadau gwerth
cymdeithasol a rhannu arfer gorau.

Cefnogaeth Cysylltedd Digidol Gwledig

Darparu cymorth i gymunedau wella eu cysylltedd band eang.

Am fwy o wybodaeth

Asesiadau Cysylltedd Busnesau Bach a Chanolig (SME)

Darparu cyngor busnes ac arweiniad penodol i fusnesau bach a chanolig (SMEs) ar sut y gallant fabwysiadu'r technolegau rhwydwaith di-wifr diweddaraf i wella cynhyrchiant ac arloesedd.

Am fwy o wybodaeth

Cytundebau Mynediad

Darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gynghorau ymchwilio i ddichonoldeb mabwysiadu cytundebau mynediad er mwyn galluogi'r defnydd o golofnau goleuo ar gyfer defnyddio celloedd bach 4G. Nod y prosiect yw darparu'r wybodaeth berthnasol i'r cynghorau.

Arolwg Darpariaeth Signal Symudol

Prosiect i brynu offer arolygu i alluogi'r rhanbarth i asesu ansawdd signal 4G yn annibynnol ar asesiadau gweithredwyr rhwydwaith eu hunain. Bydd y gallu yn nodi meysydd o angen ac yn helpu i lobïo gweithredwyr ar faterion sy'n benodol i leoliad.