Dychmygwch pan fyddwch yn ymlacio ar y soffa yn y tŷ ac am wylio cyfres newydd ar Netflix.

Cysylltu chi a'r byd

Yn y lle cyntaf bydd angen cysylltu â’r rhyngrwyd er mwyn gwylio’r sioe ac yn dibynnu ar eich cysylltiad bydd cyflymder y gwasanaeth yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr rhwng mwynhau eich hun ac aros am oes i wylio rhaglen.

Datblygwyd y canllaw syml yma er mwyn eich helpu i ddeall a negodi’r opsiynau cysylltu er mwynhau pori’r we o’r tŷ, neu wrth symud o gwmpas.

Pam oes angen cysylltiad?

Edrychwch nôl at 2020 pan oedd y byd yn destun cyfnod clo a’r rhan fwyaf ohonom yn gorfod aros gartref.

Roedd yr haul wedi disgleirio am chwe wythnos a bywyd wedi troi’n araf iawn i’r rhan fwyaf ohonom. Ond roedd deall pryd byddai modd gweld y teulu a ffrindiau yn destun pryder a chanfod lle i brynu anghenion syml fel bwyd, nwyddau ymolchi ac eitemau eraill wedi troi’n bwysig iawn.

Erbyn hynny roedd archfarchnadoedd a siopau lleol ac arlein yn canolbwyntio ar eu presenoldeb arlein ac yn buddsoddi mewn technolegau mewn ymateb i ddulliau ac anghenion siopa newydd.

Roeddem yn brysur yn trefnu gofod gwaith yn y cartref, gan ddibynnu ar y teledu, cyfryngau cymdeithasol a ffonau fel y prif ffyrdd o gadw mewn cysylltiad gyda’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr.

Ers Covid 19, mae llawer o siopau a bwytai wedi mabwysiadu systemau talu heb arian parod ac yn awr yn dibynnu ar gysylltiadau rhyngrwyd dibynadwy ar gyfer taliadau. Yn ogystal, mae llawer yn cynnig Wi- Fi am ddim wrth geisio denu cwsmeriaid i ddefnyddio eu siopau.

Yn awr mae busnesau’n hysbysebu swyddi newydd gyda gwaith hybrid yn opsiwn ar gyfer staff sydd angen hyblygrwydd neu gyfle i weithio gartref - a rhai’n cynnig cymhellion i aros gartref!

Gallw'n eich helpu!

Cwblhewch y ffurflen i dderbyn copi o'r Canllaw Cysylltedd Digidol

Gwasanaeth digon cyflym?

Ar ddiwedd diwrnod hir, bydd y rhan fwyaf ohonom yn eistedd, ymlacio ac efallai’n gwylio’r teledu. Beth os bydd eich partner yn gwylio Vlogger ar Youtube yn yr ystafell drws nesaf a phlentyn yn chwarae gêm ar y cyfrifiadur yn ei ystafell wely? Ydych chi wedi sylwi bod eich rhaglen yn arafu neu'n oedi?

Astudiaethau Achos

  • Eisiau siarad â rhywun?

    Rydym yn deall eich bod weithiau eisiau siarad â rhywun am eich materion penodol a chael sicrwydd neu gyngor gan berson.

    Ffoniwch 07485923735 neu 01248 725700, byddwn yn hapus i sgwrsio â chi.

    Gallwch hefyd e-bostio enquiries@connectivity.cymru.

LLUN

18/11/24

Llyfrgell Nefyn, Gwynedd, LL53 6EB. RHWNG: 10yb - 3yp
SADWRN

23/11/24

Ffair Dolig Nant Gwrtheyrn, Gwynedd, LL53 6NL. RHWNG: 10yb - 3yp

Cael hyd i’r cyllid sydd ar gael

Bydd deall y gwahanol opsiynau yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth wneud cais.

Cyflwynir y prosiect hwn i chi mewn cydweithrediad â:

Gweithredir y prosiect gan:

 

17/10/24 - GWIBDAITH DIGIDOL BALA

09:30-10:30 - Neuadd Llanuwchlyn, Gwynedd. LL23 7NA
11:00–12:00 - Neuadd Parc, Gwynedd. LL23 7YW
13:00-14:00 – Neuadd Cwmtirmynach, Gwynedd. LL23 7EB
14:30-15:30 – Neuadd Llandderfel, Gwynedd. LL23 7HR