Mae’r Bwrdd Uchelgais Economaidd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi datblygu Strategaeth Ynni Ranbarthol a Chynllun Gweithredu cysylltiedig ar gyfer Gogledd Cymru, sy’n nodi llwybrau rhanbarthol ar gyfer “pweru” cynhyrchu ynni glân a “phweru i lawr” defnydd ynni yng Ngogledd Cymru.
Bydd gan y cynllun hefyd gysylltiadau cryf â'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol a gynhyrchir gan y chwe sir yng Ngogledd Cymru.
Beth fydd y Strategaeth Ynni Ranbarthol yn ei gyflawni?
Ynni Carbon Isel
Cynnal cyfoeth o adnoddau carbon isel lleol a dod yn bwerdy gwyrdd gan ddefnyddio cymysgedd ynni amrywiol.
Bod Gogledd Cymru yn dod yn arweinydd byd mewn technolegau gwynt ar y môr a morol.
Bod Gogledd Cymru yn dod yn allforiwr net o ynni carbon isel trwy gydweithredu rhanbarthol a thrawsffiniol.
Datgarboneiddio
Gwella effeithlonrwydd ynni tai’r rhanbarth a chyflymu datgarboneiddio stoc adeiladau Gogledd Cymru.
Cyflawni'r newid i drafnidiaeth carbon isel.
Helpu'r sectorau masnachol a diwydiannol i wneud y mwyaf o'u cyfleoedd gyda thrawsnewid i ynni sero net a'u twf economaidd.