Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn hysbysebu ein cyfleoedd tendr ar borth Llywodraeth Cymru: ⁠GwerthwchiGymru (fe welwch wybodaeth arall yno hefyd, megis digwyddiadau ymgysylltu cynnar â'r farchnad, hysbysiadau dyfarnu contractau a hysbysiadau gwybodaeth ymlaen llaw).

Oes.  Pan fyddwch chi’n cofrestru ar ⁠GwerthwchiGymru byddwch yn creu proffil ar gyfer eich busnes. Drwy roi gwybodaeth fanwl am eich busnes yn y proffil bydd yn helpu ⁠GwerthwchiGymru i benderfynu pa dendrau allai fod o ddiddordeb i'ch busnes.

Os ydych wedi cynnwys eich manylion llawn a'r codau Geirfa Gaffael Gyffredin (CPV) cywir, bydd y system yn anfon e-bost atoch yn awtomatig pan gaiff hysbyseb ei gosod sy'n berthnasol i'ch busnes.

Y codau CPV (Geirfa Gaffael Gyffredin - Common Procurement Vocabulary) yw'r codau a ddefnyddir i adnabod meysydd gwaith gwahanol.  Gallwch weld rhagor o wybodaeth ar wefan ⁠GwerthwchiGymru neu drwy gysylltu â Busnes Cymru ar 01248 672672.

Nac oes, nid yw'n costio dim i gofrestru ac mae'r system yn syml i'w defnyddio.

Na. Mae'r wefan ⁠GwerthwchiGymru yn cael ei defnyddio gan yr holl gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru. ⁠Mae hyn yn golygu y gallwch hyrwyddo eich busnes, gweld yr holl hysbysiadau contract sector cyhoeddus, a gwneud cyswllt â'r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yng Nghymru.

Os byddwch yn cofrestru byddwch yn gallu:

  • gweld y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf yng Nghymru o ran caffael a thendro,
  • cymryd rhan mewn fforymau cyflenwyr/prynwyr i drafod arferion gorau,
  • chwilio'r bas data o gyflenwyr er mwyn canfod posibiliadau o gyflwyno bidiau ar y cyd,
  • lawr-lwytho dogfennau defnyddiol e.e. deddfwriaeth yr UE, canllawiau tendro, polisïau prynwyr ac erthyglau ar sut i lwyddo.

Mae'n rhaid i Uchelgais Gogledd Cymru gydymffurfio â'r rheolau Ewropeaidd pan fydd yn tendro am waith sydd â gwerth uwchlaw trothwy penodol. Mae gwybodaeth a manylion pellach ynglŷn â’r trothwyon ar gael ar y wefan Swyddfa Fasnach y Llywodraeth.

Gallwch weld telerau ac amodau enghreifftiol yma.