Ein nod yw creu cystadleuaeth effeithiol, deg a thryloyw rhwng cwmnïau er mwyn sicrhau gwerth am arian yn ogystal â gwerth cymdeithasol ar yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau rydym yn eu prynu.

Themâu, Deilliannau a Mesurau (TOMs) Cenedlaethol Cymru

Mae TOMs Cenedlaethol Cymru yn Fframwaith sydd wedi'i llunio'n bwrpasol i helpu pob math o sefydliadau i fesur a chynyddu'r gwerth cymdeithasol maent yn ei greu. ⁠Mae'n adlewyrchu'n ofalus y blaenoriaethau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n mynd yn bell i sicrhau trefn gydlynol sy'n rhoi sylw i bob agwedd o werth cymdeithasol. Meddyliwch amdano fel maniffesto neu siarter cymdeithasol, sy'n helpu sefydliadau i ddechrau bod yn rhan o weithgareddau sy'n gwneud gwahaniaeth.