Tendrau Uchelgais Gogledd Cymru
Gweler isod:
Datgan Diddordeb - Ymgynghorwyr Anweithedol ar gyfer y Bwrdd Busnes Ymgynghorol
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb i benodi dau arweinydd sector breifat i lunio dyfodol ein heconomi ranbarthol drwy greu Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd.
Darparu Porth LoRaWAN - Fframwaith Cyflenwr Sengl
Mae chwe cyngor gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam), yn ogystal â phartneriaid rhanbarthol gan gynnwys Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru, yn defnyddio pyrth LoRaWAN sy'n gysylltiedig â'r “The Things Stack” i alluogi cysylltedd, rheoli a monitro ddyfeisiadau. Ar ran y cynghorau, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn paratoi i fuddsoddi mewn pyrth pellach drwy Cynllun Twf Gogledd Cymru a bydd yn sefydlu fframwaith cyflenwr ar gyfer caffael y rhain. Bydd cynghorau sy'n cymryd rhan yn prynu o'r fframwaith hwn trwy gydol tymor y prosiect (Medi 2025 i Rhagfyr 2027).
Tendrau ein Partneriaid
Zip World (tendr yn cau 12 Awst 2025)
Small Business Britain - yn cyflwyno'r rhaglen Small and Mighty Enterprise
Wedi’i gynllunio i helpu i dyfu busnesau bach gydag arweiniad a mentora arbenigol.