Teg a thryloyw

Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi datblygu cyfres glir o ⁠egwyddorion, sy'n ffurfio'r sail i'w holl weithgarwch, a gweithgarwch ei bartneriaid. 

 

Y tendr mwyaf manteisiol

Dyma'r dull lle rhoddir ystyriaeth i gostau a'r pris. Nid y pris isaf yw'r dewis gorau bob tro, a bydd tendrau'n cael eu hasesu i benderfynu pa un sy'n cynnig y 'tendr mwyaf manteisiol yn economaidd'.

Matrics sgorio

Mae tendrau'n cael eu sgorio'r gymharol yn erbyn ei gilydd, a byddwn yn llunio matrics sgorio wedi'i bwysoli ar gyfer pob ymarfer tendr, a fydd yn dangos sut mae pob cynnig yn cymharu yn erbyn y fanyleb a'r meini prawf asesu. O ganlyniad, bydd hwn hefyd yn dangos cymariaethau uniongyrchol rhwng tendrau.

Cyfweliadau a chyflwyniadau

Yn aml caiff tendrwyr ei gwahodd i gyfweliadau lle cânt eu hannog i wneud cyflwyniadau i gefnogi eu bid. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i ni a'r cwmni sicrhau bod pob agwedd o'r tendr wedi cael ei ddeall, ac mae hefyd yn rhoi cyfle i'r cwmni ofyn cwestiynau pellach.

Mecanwaith adrodd

Nid yw'r penderfyniad i ddyfarnu'r contract i gwmni penodol yn disgyn yn llwyr ar ysgwyddau'r swyddogion sy'n ymwneud â gwerthuso'r tendr. Caiff adroddiad argymhelliad ei lunio a'i rannu gydag uwch aelodau o Swyddfa Rheoli Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, ynghyd â'r byrddau, i gadarnhau'r penderfyniad. Ar gyfer contractau gwerth uchel neu gontractau pwysig, bydd aelodau etholedig hefyd yn rhan o'r penderfyniad. Ar unrhyw gam, mae'r broses dendro yn agored i gael ei chraffu gan ein harchwilwyr mewnol.

Ôl-drafodaeth


Bydd yr holl dendrwyr aflwyddiannus yn cael gwybod pam nad oedd eu bid yn llwyddiannus. Mae'n ffordd ddefnyddiol o ganfod sut gall cwmni wella ei gyfleoedd busnes.