• Partneriaeth o gynghorau, prifysgolion a sefydliadau addysg uwch y rhanbarth - yn unedig yn eu hymrwymiad gweithredol i wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru.

    Yn Uchelgais Gogledd Cymru- dyna yn union yr ydym - yn uchelgeisiol dros ein rhanbarth. Fel tîm, rydym yn angerddol ac yn frwdfrydig i ddarparu economi sy'n gwella'n barhaus ac yn ffynnu yn y lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn ei garu. Rydym eisiau i Ogledd Cymru fod yn ddeniadol i fuddsoddwyr, rydym am weld ein busnesau a'n cymunedau'n ffynnu, ac yn y pen draw, rydym am i genedlaethau'r dyfodol gael cyfoeth o gyfleoedd a'r dewis i aros yma mewn gyrfaoedd gwerth chweil. Rydym yn adeiladu ar ein cryfderau mewn sectorau twf, cael gwared ar fethiannau cronig yn y farchnad, ac yn datblygu'r arbenigedd a'r sgiliau sydd eu hangen arnom i ddiogelu ein heconomi yn y dyfodol. Drwy gyflawni prosiectau arloesol a thrawsnewidiol, rydym yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn gysylltiedig, yn flaengar, yn wydn ac yn gynaliadwy ac rydym yn barod i groesawu buddsoddwyr i ddatblygu Gogledd Cymru gyda ni."

    Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru

Ein Rhanbarth

Poblogaeth

700,000

trigolion
Cyfraniad Economaidd

£16.8bn

i economi Cymru a'r DU
Cyfraniad i Economi Cymru

22.5%

o gyfanswm GVA Cymru

Cysylltiedig

  • Agosrwydd at ddinasoedd mawr: O fewn 2 awr ar y ffordd neu ar y trên o Fanceinion a Lerpwl
  • Cysylltiadau Rheilffordd Uniongyrchol: Taith rheilffordd uniongyrchol 3 awr ar y mwyaf i ffwrdd o Lundain.
  • Lleoliad Strategol: Cysylltiadau fferi allweddol ag Iwerddon, gan gynnwys Porthladd Caergybi, yr ail borthladd fferi 'roll on roll off' prysuraf yn y DU, a rhan o Borthladd Rhydd Ynys Môn a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
  • Cysylltedd Digidol: Tyfu darpariaeth band eang ffeibr llawn rhanbarthol yn uwch na chyfartaledd y DU* gyda gweithredwyr rhwydwaith lluosog yn gyrru estyniad. Rhwydwaith ffeibr optig cyfanwerthu strategol ar draws y rhanbarth rhwng Iwerddon a Chyfnewidfa Rhyngrwyd Manceinion sy'n cysylltu parciau busnes allweddol.

 

 

*o fis Gorffennaf 2024

 

Gweithlu Medrus

Mae ein pobl yn wydn, yn cael eu gyrru gan ganlyniadau ac yn deyrngar.

Mae Gogledd Cymru yn ddigon mawr i gael effaith ond yn ddigon bach i fod yn ddeinamig ac i addasu'n gyflym. Rydym yn ymfalchïo yn ein treftadaeth, diwylliant, iaith ac amgylchedd ac yn croesawu pobl a chyfleoedd newydd.

  • Arbenigedd Ynni Carbon Isel: Arbenigedd sylweddol mewn ynni gwynt ar y môr ac ar y tir, ynni niwclear, a'r sector ynni llif llanw sy'n datblygu, gan gynnwys parth datblygu llanw Morlais yng Nghaergybi.
  • Arbenigedd gweithgynhyrchu: Mae Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yn yrrwr rhanbarthol cryf yn ein rhanbarth, gyda 27.4% o ddiwydiant gweithgynhyrchu Cymru wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, yn enwedig ym meysydd awyrofod, amddiffyn, bwyd a diod, electroneg a cherbydau modur. Mae partneriaethau cryf rhwng partneriaid diwydiant ac addysgol yn sicrhau rhaglenni hyfforddiant sgiliau a phrentisiaeth a phiblinell sgiliau i fuddsoddwyr. 

Sectorau Allweddol Amrywiol

Mae gan Ogledd Cymru economi amrywiol gyda chryfderau ym maes gweithgynhyrchu, ynni, twristiaeth, ynni carbon isel, yr economi wledig a'r sector cyhoeddus.

  • Cwmnïau Angori a Chadwyni Cyflenwi: Cartref i gwmnïau rhyngwladol enwog mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, ac arweinwyr cenedlaethol yn y sectorau bwyd-amaeth, twristiaeth, ynni carbon isel a digidol.
  • Cryfderau rhanbarthol mewn prosiectau magnet: cyfleusterau ac asedau sylweddol i ddenu buddsoddiad, sgiliau a chydweithrediadau i hyrwyddo ymchwil, datblygu a thechnolegau blaengar. Cliciwch ⁠yma am ragor o wybodaeth.

Cyfleusterau Addysg ac Ymchwil Ardderchog

Mae Gogledd Cymru yn gartref i gyfleusterau ymchwil ac addysg o'r haen uchaf, sy’n meithrin arloesedd a datblygu sgiliau.

  • Prifysgolion: Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam.
  • Colegau Addysg Bellach: Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai
  • Cyfleusterau Ymchwil ac Arloesi: Cyfleuster AMRC Cymru ym Mrychdyn, M-SParc yn Ynys Môn.

Yn Uchelgais Gogledd Cymru rydym yn gweithio fel partneriaeth i gyflawni ein huchelgais - gan nodi a darparu cyfleoedd i ddatblygu ein heconomi. Gwyliwch ein fideo i ddarganfod mwy.

quotation graphic

"Mae gennym yr adnoddau naturiol i ddod yn arweinydd byd ym maes ynni adnewyddadwy, yr arbenigedd gweithgynhyrchu i gyflwyno atebion arloesol, a'r bobl a'r partneriaethau i ysgogi newid i'r rhanbarth. Mae'r weledigaeth hon ar gyfer Gogledd Cymru yn gyraeddadwy ac o fewn ein cyrraedd."


Askar Sheibani,

Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes

quotation graphic

Mae Gogledd Cymru yn le gwych i fuddsoddi a thyfu eich busnes. Mae llawer o gyfleoedd cyffrous ar draws y rhanbarth, gan gynnwys yn ein Prosiectau Cynllun Twf.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar invest@ambitionnorth.wales