Chwilio am gymorth gyda'ch prosiect Ynni a Datgarboneiddio?
Dyma restr o ddarparwyr cymorth allweddol all gynnig arweiniad, adnoddau ac arbenigedd. Rhoddwyd y cysylltiadau hyn at ei gilydd yn wreiddiol i gefnogi'r gwaith o ysgrifennu bidiau a datblygu prosiectau – maent bellach ar gael i'ch helpu chi i symud ymlaen gyda'ch prosiect.
Pwy sy'n gallu eich cefnogi
Mae Uchelgais Gogledd Cymru, fel Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, yn gyfrifol am gynllunio trafnidiaeth rhanbarthol, cynllunio strategol rhanbarthol, yn ogystal ag am wella a hyrwyddo llesiant economaidd Gogledd Cymru – sy’n cynnwys cyflawni Cynllun Twf y rhanbarth.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru, sy’n sefydliad partneriaeth, yn cynnwys chwe awdurdod lleol y rhanbarth ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – gyda’r nod o gydweithio i adeiladu economi blaengar, cynaliadwy a gwydn ar gyfer Gogledd Cymru.
Contact Information
Email: gwyb@uchelgaisgogledd.cymru
Website: https://uchelgaisgogledd.cymru
Beth all Busnes Cymru ei gynnig:
- Esboniad o sut y mae system brynu’r sector cyhoeddus yn gweithio
- Eich helpu i ddeall yn well beth y mae prynwyr mawr yn chwilio
amdano mewn cyflenwyr - Cynnig cymorth a chyngor un-i-un ar ddatblygu tendrau
- Eich helpu i ddeall sut mae cydweithio â busnesau bach a chanolig eraill i wneud cais am
gontractau mwy - Helpu i’ch arwain drwy’r systemau tendro electronig mae sefydliadau prynu’r sector
cyhoeddus yng Nghymru yn eu defnyddio - Eich helpu i gychwyn arni ar GwerthwchiGymru.llyw.cymru, y safle lle mae’r rhan fwyaf o’r
sector cyhoeddus yng Nghymru yn hysbysebu eu busnes - Cefnogi eich ymrwymiad i strategaethau datgarboneiddio drwy ddefnyddio ein Hadduned
Twf Gwyrdd - Cymorth ar gyfer unrhyw beth sy’n ymwneud â chynaliadwyedd/datgarboneiddio/atebion
carbon isel yn eich busnes.
Manylion cyswllt - Tîm Datgarboneiddio
daniel.thomas@businesswales.org
aimee.docwra@businesswales.org
gareth.davies@businesswales.org
Llinell Gymorth Busnes Cymru
03000 6 03000
Ffurflen Gyswllt Ar-lein
Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon yn bartner arbenigol i fusnesau,
llywodraethau a sefydliadau ar draws y byd – gan eu helpu i
ddatgarboneiddio a chyflymu tuag at Sero Net.
Maen nhw’n cefnogi sefydliadau wrth iddyn nhw gyflymu tuag at Sero Net. O osod targedau,
llwybrau Sero Net, sicrwydd a mesur ôl-troed, i gyngor ar bolisi, gosod strategaethau a chyflawni
rhaglenni, maen nhw’n chwilio am ffyrdd mwy clyfar o droi uchelgais yn effaith, lle mae
cynaliadwyedd a realiti economaidd yn mynd law yn llaw. Cydweithio yw eu dull gweithredu, gan eu
bod yn dod â busnesau, llywodraethau a sefydliadau ariannol at ei gilydd i ddatgloi newid ar y cyd.
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn fudiad aelodaeth nid-er-elw sy’n rhoi
cymorth a llais i grwpiau cymunedol sy’n gweithio ar brosiectau ynni
yng Nghymru.
Maen nhw eisiau helpu i greu’r amodau yng Nghymru a fydd yn caniatáu i brosiectau ynni cymunedol
lwyddo, ac i gymunedau ffynnu.
Y Weledigaeth
- Dylai pobl fod wrth galon y system ynni.
Eu Cenhadaeth
- Cefnogi a chyflymu’r broses o newid i system ynni deg, garbon isel sy’n cael ei
harwain gan y gymuned.
Manylion Cyswllt
Gwefan: https://communityenergy.wales
Ebost: info@communityenergywales.org.uk
Ffôn: 02920 190260
Mae’r tîm o gynghorwyr yn cynnig cymorth a chefnogaeth ar
draws ystod eang o feysydd, o gymorth cydweithredol a mentrau
cymdeithasol i gynhwysiant digidol.
Mae eu gwasanaethau ymgynghori busnes yn cynnwys:
- Trawsnewid digidol
- Dysgu a datblygu
- Gwerth Cymdeithasol
- Gofal cymdeithasol
- Gwerthuso
- Astudiaethau dichonoldeb
- Polisi
- Ymchwil a chyflawni
Manylion cyswllt
Gwefan: https://cwmpas.coop
Ffôn: 0300 1115050
Os ydych chi’n fusnes bach a chanolig yng Ngogledd Cymru, nod yr Academi
Ddigidol Werdd yw cefnogi busnesau sy’n gweld gwerth mewn defnyddio
technolegau digidol newydd, cyflymu effeithlonrwydd, cynhyrchiant, lleihau
carbon a lleihau costau.
Drwy’r prosiect, byddwch yn gallu cael gafael ar gymorth ymgynghorol wedi’i ariannu’n llawn ar ffurf
mentor. Bydd y mentor yn gallu eich helpu i werthuso eich sefyllfa bresennol a chynnal proses
ddiagnostig ar eich busnes, datblygu cynllun i nodi hyfforddiant a chyllid i'ch cefnogi i leihau eich ôl
troed carbon.
Manylion Cyswllt
Gwefan: Academi Ddigidol Werdd | Grŵp Llandrillo Menai
Ebost: greendigital@gllm.ac.uk
Ffôn: 08445 460 460
Mae Innovate UK Business Growth (Innovate UK EDGE o’r blaen) yn rhan allweddol o fuddsoddiad dwfn asiantaeth arloesedd y DU yn y busnesau arloesol sy'n sbarduno twf economaidd. Mae’n wasanaeth sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus ac sydd ar gael i bob cwmni bach a chanolig posibl sy’n cael ei yrru gan arloesedd, gan gynnwys enillwyr grantiau Innovate UK.
Mae arloeswyr yn awyddus i wella’r ffordd rydyn ni’n byw ac yn gweithio. Mae Innovate UK yn cefnogi’r rhai sy’n adeiladu busnesau a allai ehangu’n gyflym i gyflawni eu nodau ym mhob sector ac o gychwyn busnes i’r cam tyfu.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda thimau arwain, fel BIC Innovation, i greu’r amodau i bob busnes lwyddo a dod â manteision eu harloesedd i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol.
Manylion cyswllt
Gwefan: https://www.ukri.org/councils/innovate-uk/
Ebost: enquiries@iukbc.org.uk
Mae gwaith DEG yn rhoi’r hyder, yr wybodaeth a’r uchelgais i gymunedau
gymryd perchnogaeth dros eu dyfodol drwy brosiectau fel:
- Lleihau’r defnydd o ynni, costau tanwydd a dibyniaeth ar danwydd
anghynaladwy - Cryfhau’r economi leol
- Cynhyrchu trydan a gwres cynaliadwy
Mae DEG yn hwyluso’r broses o ddefnyddio arferion gorau drwy gynnal digwyddiadau sy’n cysylltu
cymunedau ac sy’n annog dysgu, rhannu sgiliau a phrofiadau.
Mae DEG yn darparu gwybodaeth am yr hyn sy’n bosibl, yr hyn sydd wedi’i gyflawni mewn mannau
eraill yn ein hardal ac arferion gorau gan grwpiau ynni cymunedol ledled Prydain.
Rydyn ni’n gallu
helpu gyda'r canlynol:
- Dod o hyd i gyfleoedd ar gyfer eich cymuned
- Cael pobl i gymryd rhan
- Cynllunio a datblygu prosiectau
- Cael gafael ar arbenigedd
- Codi arian i wneud i brosiectau ddigwydd
Manylion cyswllt
Gwefan: https://www.deg.wales
Ebost: post@deg.cymru
Ffôn: 01286 875693
Un o brosiectau Menter Môn yw Hwb Menter. Mae’n rhoi'r wybodaeth, yr
arweiniad, yr ysbrydoliaeth a’r lle i entrepreneuriaid drawsnewid eu syniad
yn fusnes llwyddiannus.
Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn cynnwys y canlynol:
- Swyddfeydd ar gyfer gweithio ar y cyd
- Cymuned o unigolion o’r un anian ar gyfer rhannu syniadau a chynnig anogaeth
- Cyngor busnes
- Amrywiaeth o ddigwyddiadau addysgol a chymdeithasol
- Gofod Creu Ffiws
- Rhaglen cychwyn busnes Miwtini.
Manylion Cyswllt
Gwefan: https://www.hwbmenter.cymru/en/
Ffôn: 01248 858070
Ebost: post@hwbmenter.wales
Cymorth Busnes
Mae’r cymorth sydd ar gael yn M-SParc yn cynnwys meithrin a chefnogi
busnesau, eu helpu i wneud cysylltiadau a sicrhau bod cwmnïau tenant yn
rhan o ecosystem.
Yn M-SParc, mae tîm Egni yn gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau, o gefnogi’r sector gwynt ar
y môr i’r sector niwclear newydd, o gynghori cwmnïau ar sut i leihau eu hôl troed carbon i gynllunio
sut i gyrraedd sero net erbyn 2030!
Llythrennedd Carbon
Mae’r tîm yn cynnig hyfforddiant llythrennedd carbon, sef rhaglen addysgol sydd wedi’i dylunio i
gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o allyriadau carbon, newid hinsawdd, a’u heffeithiau
cysylltiedig.
Manylion Cyswllt
Gwefan: https://m-sparc.com
Ebost: post@m-sparc.com egni@m-sparc.com
Ebost (ar gyfer llythrennedd carbon): rhodrid@m-sparc.com
Ffôn: 01248 858000
Maen nhw’n darparu cyllid grant, yn ogystal â chyngor
technegol, masnachol a chaffael i ddatblygu prosiectau ynni
adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Mae’r prosiectau hyn
yn lleihau allyriadau carbon, yn creu arbedion cost ac incwm, ac yn rhoi manteision ehangach i’r
gymuned.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys y canlynol:
- Cynllunio ynni rhanbarthol.
- Systemau gwresogi carbon isel.
- Effeithlonrwydd ynni.
- Ynni adnewyddadwy.
- Cerbydau di-allyriadau.
- Seilwaith gwefru ar gyfer cerbydau trydan.
Manylion Cyswllt
Ebost: enquiries@energyservice.wales
Linkedin: https://www.linkedin.com/company/welsh-government-energy-service/
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at sefydlu Ynni Cymru: cwmni ynni sy’n eiddo cyhoeddus i
Gymru, gyda’r nod o ehangu a buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth y
gymuned.
Dyma bedwar amcan Ynni Cymru:
- Ehangu’r ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol sy’n cael ei ddefnyddio a’i gynhyrchu
yng Nghymru - Sicrhau bod prosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol
yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posibl - Cyflymu’r broses o drawsnewid a defnyddio systemau ynni lleol clyfar ledled Cymru
- Hwyluso pontio teg tuag at sero net, gan gadw’r manteision i gymunedau Cymru
Mae Partneriaethau Lleol wedi cael eu comisiynu i gefnogi datblygiad Ynni Cymru.
Manylion Cyswllt
Gwefan: https://localpartnerships.gov.uk/our-expertise/ynni-cymru/
Rhwydwaith Sero Net Gogledd Cymru
Dan arweiniad Cyngor Busnes Gogledd Cymru yn 2022, mae'r rhwydwaith yn cysylltu sefydliadau allweddol i gefnogi datgarboneiddio ar draws y rhanbarth. Mae'n rhannu'r arferion gorau ac yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.
⬇️⬇️⬇️⬇️ Dewch o hyd i fanylion yn y Canllaw Gwyrdd Mawr ar gyfer Gogledd Cymru ⬇️⬇️⬇️⬇️
Cyfeiriadur Cyllid Ynni a Datgarboneiddio
Rydym yn falch o rannu ein Cyfeiridur Cyllid Ynni a Datgarboneiddio, sy'n amlinellu'r cyfleoedd sydd ar gael am gyllid a chymorth ar hyn o bryd.
Pwrpas y cyfeiriadur yw helpu i adnabod a gweithio eich ffordd drwy ffrydiau cyllido perthnasol yn haws – byddwn ni’n parhau i'w ddiweddaru wrth i gyfleoedd newydd godi. Caiff ei gylchredeg bob chwarter i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf wrth law i chi.
⬇️⬇️⬇️⬇️ Lawrlwythwch y Cyfeiriadur Cyllid Ynni a Datgarboneiddio diweddaraf isod ⬇️⬇️⬇️⬇️
Lawrlwythwch - Cyfeiriadur Cyllid Ynni a Datgarboneiddio
Ar beth ydych chi'n gweithio?
Defnyddiwch y ffurflen yma i ddweud wrthym am y prosiectau ynni neu ddatgarboneiddio sydd gennych ar y gweill gan nodi pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch. Megis dechrau ydych chi? Neu ydych chi'n gwneud cynnydd yn barod? Rydym ni yma i helpu.
Cyfarfod â'r tîm
-
Meghan Davies Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net
-
Danial Evans Swyddog Prosiect Ynni
-
Denise Creed Swyddog Prosiect Cyflawni Ynni
-
Llio Davies Swyddog Prosiect Cyflawni Ynni