Grwpiau Ymgynghorol

Mae'r grŵp yn darparu cyngor strategol a phroffesiynol i'r Is-bwyllgor Lles Economaidd ym meysydd trafnidiaeth, sgiliau a chyflogaeth, datblygu economaidd, tai, defnydd tir cynllunio a digidol.

Darganfyddwch fwy am aelodau'r Bwrdd Portffolio yma

Nod y Bwrdd Busnes Ymgynghorol yw cynrychioli busnesau a chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru. Unwaith y bydd wedi’i sefydlu’n llawn, prif bwrpas y Bwrdd fydd darparu cyngor annibynnol a her adeiladol i Uchelgais Gogledd Cymru.

Darganfyddwch fwy am yr aelodau yma.

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn un o bedair partneriaeth ar draws Cymru, ddaw â chyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid lleol allweddol ynghyd i gael gwell dealltwriaeth o anghenion sgiliau cyflogwyr ar lefel leol a rhanbarthol.

Find out more here.