Mae Dave Penrith a Nick Bennett wedi’u penodi’n Ymgynghorwyr Anweithredol i Uchelgais Gogledd Cymru.
Gyda’i gilydd, maent yn dod â chyfoeth o arbenigedd diwydiannol ym maes prosiectau cyfalaf, llywodraethu, peirianneg, trawsnewid digidol a datblygu economaidd i helpu hyrwyddo twf cynaliadwy a denu buddsoddiad i’r rhanbarth.
Byddant yn chwarae rolau blaenllaw fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd wrth ffurfio Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd, a fydd yn cynrychioli busnesau a chyflogwyr ledled Gogledd Cymru. Unwaith y bydd wedi’i sefydlu, prif bwrpas y Bwrdd fydd darparu cyngor annibynnol a her adeiladol i Uchelgais Gogledd Cymru.
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd
-
Dave Penrith Cadeirydd, Bwrdd Busnes Ymgynghorol
-
Nick Bennett Is-Gadeirydd, Bwrdd Busnes Ymgynghorol
Am ragor o wybodaeth
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y Bwrdd Busnes Ymgynghorol, neu siarad â rhywun am ddod yn aelod, anfonwch e-bost at gwyb@uchelgaisgogledd.cymru neu cysylltwch â ni yma.