Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn gorff corfforedig rhanbarthol a sefydlwyd i wella cydweithio a chynllunio strategol ledled Gogledd Cymru. Mae'n dod â chwe Awdurdod Lleol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri at ei gilydd i ymdrin â'r blaenoriaethau rhanbarthol allweddol.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn gyfrifol am y swyddogaethau statudol a ganlyn:
- Paratoi Cynllun Datblygu Strategol
- Paratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
- Gwella a hyrwyddo llesiant economaidd rhanbarth Gogledd Cymru
Fel corff corfforedig, mae gan Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gyfrifoldebau sy'n debyg i gyrff cyhoeddus eraill, yn cynnwys:
- Gosod a rheoli ei gyllideb flynyddol
- Sefydlu a chymryd trosolwg o'r is-bwyllgorau, fel bo'r angen
- Penodi swyddogion allweddol i gefnogi ei swyddogaethau
- Sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau a rheoliadau cyrff cyhoeddus perthnasol
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn cynnwys:
- Cynrychiolwyr o chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru
- Cynrychiolydd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi'i sefydlu yn dilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2021, daeth Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn gwbl weithredol ar 30 Mehefin 2022, gan esgor ar gyfnod newydd o gydweithio a chynllunio strategol rhanbarthol i Ogledd Cymru.
Aelodau
-
Cyng. Mark Pritchard Cadeirydd / Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
-
Cyng. Charlie McCoubrey Is-Gadeirydd / Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
-
Cyng. Jason McLellan Arweinydd, Cyngor Sir Ddinbych
-
Cyng. Gary Pritchard Arweinydd, Cyngor Sir Ynys Môn
-
Cyng. Dave Hughes Arweinydd, Cyngor Sir y Fflint
-
Cyng. Nia Jeffreys Arweinydd, Cyngor Gwynedd
-
Edgar Wyn Owen Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Prif Swyddogion
-
Dafydd Gibbard Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd
-
Dylan Williams Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn
-
Rhun ap Gareth Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
-
Graham Boase Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ddinbych
-
Neal Cockerton Prif Weithredwr, Cyngor Sir y Fflint
-
Alwyn Jones Prif Weithredwr Dros dro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
-
Jonathan Cawley Prif Weithredwr, Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddogion Statudol
-
Alwen Williams Cyfarwyddwr Portffolio
-
Dewi A. Morgan Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd
-
Iwan G. D. Evans Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol , Cyngor Gwynedd
Dyddiadau cyfarfodydd
- 23 Mai 2025 1:30yp
Blaen raglen
- I ddilyn