Mae Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn cymryd trosolwg o faterion ariannol, rheolaeth risg, rheolaethau mewnol, rheoli perfformiad, a threfniadau llywodraethu corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Mae'n asesu'r ffordd y mae'r Cyd-bwyllgor yn ymdrin â chwynion, rheoli prosesau archwilio, ac adolygu datganiadau ariannol. Mae'r Is-bwyllgor yn llunio adroddiadau ac argymhellion ar y materion hyn, yn cyflawni swyddogaethau dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn hyrwyddo archwilio mewnol, ac yn datblygu diwylliant gwrth-dwyll. Mae hefyd yn ystyried sylwadau gwasanaeth lefel sirol ac yn monitro ymatebion i argymhellion archwilio. Drwy'r cyfrifoldebau hyn, mae'r Is-bwyllgor yn sicrhau llywodraethiant, rheolaeth ariannol a pherfformiad effeithiol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
Aelodaeth Etholedig Dirprwyedig
-
Alwen Williams Prif Weithredwr
Aelodaeth Etholedig
-
Cyng. Gareth Jones Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
-
Cyng. Stephen Price Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
-
Cyng. Carol Holliday Cyngor Sir Ddinbych
-
Cyng, Bobby Feeley Cyngor Sir Ddinbych
-
Cyng. Andrew Parkhurst Cyngor Sir y Fflint
-
Cyng. Ted Palmer Cyngor Sir y Fflint
-
Cyng. Paul Rogers Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
-
Cyng. Trevor Bates Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
-
Cyng. Richard Glyn Roberts Cyngor Gwynedd
-
Cyng. Geraint Bebb Cyngor Sir Ynys Môn
-
Cyng. Keith Roberts Cyngor Sir Ynys Môn
-
Cyng. Ioan Thomas Cyngor Gwynedd
Dyddiadau Cyfarfodydd
- 13 Ionawr 2026 | 10:00 - 12:00
Blaen Raglen
- I dilyn
