Mae'r Siarter Archwilio Mewnol yn egluro rôl, pwrpas ac awdurdod y gwasanaeth archwilio mewnol, a sut mae’n cefnogi llywodraethu da a rheoli risg. Ei nod yw rhoi hyder i ddinasyddion ac i’r Cyd Bwyllgor Corfforedig ynghylch effeithiolrwydd amgylchedd rheolaeth a threfniadau llywodraethu’r corff, drwy adrodd yn annibynnol ac yn wrthrychol i’r Prif Swyddog Ariannol (adran 151) a’r Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Trwy waith ar sail risg, mae archwilio mewnol yn cryfhau gallu’r corff i greu, amddiffyn, gwarchod a chynnal gwerth drwy ddarparu sicrwydd, cyngor, mewnwelediad a rhagwelediad i’r Is Bwyllgor a’r rheolwyr.