Mae pecyn gwerth £12.43 miliwn i ehangu sgiliau ar draws Sir y Fflint a Wrecsam wedi'i gymeradwyo, gan baratoi'r ffordd ar gyfer twf yn y sectorau gweithgynhyrchu uwch a digidol.

Nod y buddsoddiad yw cefnogi Strategaeth Sgiliau’r Parth Buddsoddi er mwyn mynd i'r afael â phrinder sgiliau allweddol, hyrwyddo mynediad at yrfaoedd gwerth uchel a chryfhau cysylltiadau rhwng cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant.

O dan arweiniad Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSR), a thrwy gydweithio gydag awdurdodau addysg lleol, Coleg Cambria a Phrifysgol Wrecsam, bydd y buddsoddiad yn ariannu cyfres o brosiectau gan gynnwys prentisiaethau, cyrsiau gradd a hyfforddiant wedi ei gynllunio gyda chyflogwyr. Y bwriad yw cefnogi technolegau newydd a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil y Parth Buddsoddi.

quotation graphic

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd yr PSR:

“Mae'r buddsoddiad hwn yn rhoi'r gallu i ni adeiladu gweithlu sy’n barod ar gyfer y ddyfodol ac ar gyfer sectorau hynny sy’n tyfu gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch a digidol. Drwy weithio gyda darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr lleol, gallwn gyflawni ein strategaeth i sicrhau bod sgiliau wrth wraidd unrhyw ddatblygiad, yn cyd-fynd ag anghenion  busnesau ac yn amlygu llwybrau i yrfaoedd o safon uchel yn y rhanbarth.”

quotation graphic
quotation graphic

Croesawodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, y penderfyniad hefyd, gan ychwanegu: “Mae’r cyllid hwn yn gyfraniad pwysig at adeiladu economi gryfach a mwy gwydn yn y ddwy sir. Bydd rhoi pwyslais ar sgiliau mewn ysgolion, prentisiaethau ac mewn addysg bellach yn ein helpu ni i sicrhau bod pobl a busnesau lleol yn elwa o’r cyfleoedd ddaw diolch i’r Parth Buddsoddi.”

quotation graphic

Coleg Cambria fydd yn rhedeg yr elfen fwyaf o’r pecyn, gan arwain ar brosiect gwerth £8.18 miliwn fydd yn cynnwys uwchraddio adeiladau a chreu cyrsiau newydd yn canolbwyntio ar beirianneg a thechnoleg. Dros y pum mlynedd nesaf, mae’n disgwyl gweithio gyda dros 1,000 o ddysgwyr a chynnig tua 100 o gyrsiau, gyda rhaglenni fydd yn targedu nifer o sectorau twf uchel.

quotation graphic

Dywedodd Nick Tyson, Is-bennaeth Coleg Cambria: “Mae’r cyllid hwn yn cryfhau ein gallu i baratoi’r gweithlu â sgiliau sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Bydd rhaglenni fel Ffatri Sgiliau Medru yn sicrhau bod dysgwyr a chyflogwyr yn gallu cael mynediad at hyfforddiant o safon uchel ac yn ymateb i anghenion diwydiant gan fynd i’r afael â’r bylchau cyfredol mewn sgiliau.”

quotation graphic

Bydd Prifysgol Wrecsam yn derbyn £4.24 miliwn i ddatblygu dysgu lefel uwch a chadw graddedigion yn y rhanbarth. Bydd y buddsoddiad yn cefnogi prentisiaethau gradd mewn gweithgynhyrchu uwch, yn cynnig interniaethau ac yn cefnogi dros 50 o gyfleoedd ôl-raddedig mewn meysydd fel awtomeiddio a thechnoleg ddigidol.

quotation graphic

Dywedodd Laura Gough, Pennaeth Menter a Datblygu ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu cryfder cydweithio ar draws y rhanbarth ac ymrwymiad ar y cyd i gydlynu sgiliau ag anghenion diwydiant. Mae Prifysgol Wrecsam yn falch o chwarae rhan allweddol yn hyn, gan ein galluogi i ehangu cyfleoedd sy’n cadw talent yma ac yn darparu’r ymchwil, arloesedd a’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau i dyfu.”

quotation graphic

Fel rhan o gynllun ehangach deg mlynedd y Parth Buddsoddi, bydd yr arian yn helpu i osod y sylfaen ar gyfer sgiliau hirdymor i gefnogi arloesedd a thwf yn y rhanbarth. Bydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn mynd ati i weithio gyda phartneriaid i gyflawni’r Strategaeth Sgiliau, er mwyn galluogi unigolion a chyflogwyr i fanteisio ar gyfleodd newydd.