Yn ddiweddar fe gyhoeddwyd bod 21 o fusnesau gogledd Cymru yn llwyddiannus ar gyrraedd y rhestr fer i’r Gwobrau ‘Wales Start-up’ 2021.
Mae'r digwyddiad ‘Wales Start-up’ yn darparu platfform unigryw i fusnesau Cymraeg i gydnabod eu cyflawniadau ac eu cyfraniad at wella ffyniant ledled Cymru.
Y flwyddyn yma, fe derbyniodd y Gwobrau y nifer uchaf erioed o enwebiadau, gyda chyfanswm o 750 o geisiadau ar draws y genedl gyfan.
Roedd yr Athro Dylan Jones-Evans, a greoedd y Gwobrau, wrth ei fodd gyda nifer yr enwebiadau a dderbyniwyd:
"Dros y pymtheg mis diwethaf, rydym wedi gweld y niferoedd uchaf erioed o gwmnïau newydd yn cael eu creu yng Nghymru er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu busnesau yn ystod pandemig Covid-19 ac adlewyrchir hyn yn ansawdd a maint uchel y ceisiadau i'r gwobrau a fydd yn gwneud y beirniadu terfynol hyd yn oed yn fwy anodd eleni.
"Mae astudiaethau amrywiol wedi dangos bod entrepreneuriaeth yn parhau i fod yn elfen bwysig o economïau ledled y Byd, ac mae'n amlwg y bydd cwmnïau fel ein cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, sy'n gweld cyfle ac yn cymryd risg i greu busnes newydd, yn hanfodol i sicrhau adferiad economi Cymru dros y blynyddoedd nesaf.
"Rwy'n arbennig o falch bod chwarter y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn dod o Ogledd Cymru eleni."
Un o'r categorïau o’r Gwobrau yw’r ‘North Wales Start-up’, sydd â enwebiadau o bob rhan o Ogledd Cymru. Y rhai llwyddiannus sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw Academi Arweinyddiaeth Aspire (Bangor), Inndex (Biwmares), Siop Argraffu Merch Locker (Wrecsam) a Semper Paratus (Pen-y-ffordd).
Yn falch o noddi'r categori uchod, mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr Portffolio Alwen Williams:
"Rydym yn falch o barhau i noddi'r categori hwn a chefnogi'r gwobrau gan ei fod yn dod â llwyfan gwerthfawr i Fusnesau Newydd".
"Mae'n wych gweld bod 21 o 90 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dod o ranbarth Gogledd Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at y digwyddiad ac yn llongyfarch yr enillwyr ym mis Medi."
Mae rhai o gwmnïau llwyddiannus eraill y Gwobrau yn cynnwys:
■ Business to business services Start-up of the year - Dewin Tech
■ Construction Start-up of the year - Inndex
■ Digital Start-up of the year - Cufflink
■ Fintech Startup of the year - Monva
■ Food and drink Start-up of the year - Bragdy Cybi, The Good Pud
■ Global Start-up of the year - Semper Paratus
■ Graduate Start-up of the year - Pai Language Learning
■ High Street Start-up of the year - Cocovanille, Cuffed in Coffee
■ Innovative Start-up of the Year - Grafmarine
■ Manufacturing Start-up of the year - LIMB-art, Slate Creation, The Good Pud
■ Mobile and Emerging Technologies start-up of the year - Dewin Tech
■ Rural Start-up of the year - Llaethdy Mynydd Mostyn
■ Social enterprise Start-up of the year - Prom Ally CIC
■ Young entrepreneur of the year - Tim Winstanley of Pendragon Drinks
■ Rising Stars award - Haia, Penbedw Lamb, The Sorbus Tree, The Scouted Hub
Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar y 9fed o Fedi. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, cliciwch yma