Mae datblygu sgiliau mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd wedi cymryd cam cyffrous ymlaen ar ôl i Brifysgol Wrecsam agor ei hadeilad peirianneg newydd, CanfodAu - Canolfan Peirianneg ac Arloesi. 

Mae’r adeilad arloesol yn atgyfnerthu gweledigaeth y Brifysgol i ddod yn brifysgol ddinesig fodern, flaenllaw yn y byd a safle Gogledd Cymru fel canolfan ar gyfer uwch weithgynhyrchu, gwerth uchel, drwy feithrin arloesedd a chynaliadwyedd drwy gydweithio agos rhwng y byd academaidd a diwydiant. 

Dechreuodd y gwaith ar y ganolfan yn swyddogol yn ôl ym mis Chwefror 2024, a heddiw mae wedi cael ei agor yn swyddogol gan Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

Yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam, graddiodd Mr Sargeant mewn Peirianneg Ddiwydiannol, wrth gael ei ryddhau o’i waith mewn diwydiant ar y pryd am ddiwrnod.

Mae’r prosiect, a wnaed yn bosibl drwy fuddsoddiad gan Uchelgais Gogledd Cymru drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru - sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU, yn canolbwyntio ar gyflawni ystod eang o allbynnau, deilliannau a buddion hirdymor mesuradwy i Ogledd Cymru erbyn 2036. Mae’r rhain yn cynnwys creu hyd at 94 o swyddi newydd, cynhyrchu £88 miliwn yn fwy o werth ychwanegol gros, a buddsoddi’n sylweddol mewn ymchwil gydweithredol a datblygiad, sgiliau gweithgynhyrchu gwerth uchel, ac arloesedd carbon isel.

Gan gyd-fynd ag uchelgeisiau strategol i gael Gogledd Cymru fwy gwydn a chraff, nod gweithgaredd craidd yr adeilad yw dod â gwerth masnachol o ymchwil a datblygiad drwy gyfarparu busnesau a mentrau lleol â’r offer, yr arbenigedd a’r seilwaith sydd eu hangen i gystadlu’n fyd-eang yn y dirwedd sy’n esblygu.

Mae CanfodAu yn canolbwyntio ar uwch weithgynhyrchu, deunyddiau cyfansawdd, integreiddio ag opteg, a thechnolegau hydrogen, gan alluogi cyd-greu cynhyrchion a phrosesau newydd sy’n cyflymu datgarboneiddio a thrawsnewid diwydiannol.

Mae’r adeilad yn gartref i:

  • Labordy deunyddiau cyfansawdd a phrofi: Yn canolbwyntio ar uwch ddeunyddiau ysgafn ar gyfer peirianneg a gweithgynhyrchu.
  • Labordy gyriant trydanol: Canolfan ragoriaeth ar gyfer gyriant cynaliadwy a chartref i brosiect FAST Fan Prifysgol Wrecsam, sy’n cynnwys ystafelloedd glân a gweithdai pwrpasol ar gyfer datblygu technolegau awyrofod a morol carbon isel.
  • Labordy systemau awtomeiddio: Yn arbenigo mewn awtomeiddio diwydiannol, roboteg, a gefeillio digidol, gan gefnogi ymchwil, hyfforddiant masnachol, ac uwchsgilio’r gweithlu.
  • Labordy carbon sero: Hyrwyddo ynni hydrogen, ynni adnewyddadwy, a datgarboneiddio drwy systemau solar, gwynt, a hydro gradd ymchwil, gan weithredu fel canolfan ranbarthol ar gyfer arloesedd gwyrdd.
  • Labordy gweithgynhyrchu digidol a gweithgynhyrchu ychwanegol: Yn darparu cyfleoedd argraffu, sganio a gweithgynhyrchu ychwanegol 3D.
  • Labordy dylunio ac efelychu digidol: Archwilio cyfathrebu 5G/6G, systemau diwifr, a dylunio RF ac antena sy’n cael eu gyrru gan AI.
  • Labordy electromagnetig cymhwysol ac amledd radio: Yr unig gyfleuster diogel yn y rhanbarth ar gyfer profi amledd uchel ac electromagnetig.
quotation graphic

Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: 

“Mae agor CanfodAu yn nodi moment hollbwysig ar daith ein prifysgol tuag at ei gweledigaeth 2030 o fod yn Brifysgol ddinesig fodern, flaenllaw yn y byd, sy’n gyrru arloesedd, cyfle a thwf cynaliadwy i’n rhanbarth a thu hwnt.

“Mae’r ganolfan hon yn ymgorffori ein hymrwymiad i gydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant, gan alluogi datblygu sgiliau ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau’r byd go iawn. Drwy feithrin gwaith arloesol mewn uwch weithgynhyrchu, technolegau hydrogen ac ynni anadnewyddadwy, bydd CanfodAu nid yn unig yn cryfhau safle Gogledd Cymru fel canolfan ar gyfer gwerth uchel ond hefyd yn grymuso ein cymunedau i ffynnu mewn dyfodol mwy craff, gwyrdd a gwydn.

“Nawr, gyda CanfodAu ar agor ac yn weithredol, mae’r prosiect yn mynd i mewn i gyfnod allweddol lle gall ei botensial llawn i yrru arloesedd a thwf cynhwysol wirioneddol, gyflymu.”

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: 

“Mae CanfodAu yn brosiect arloesol, sydd wirioneddol yn dangos sut mae Uchelgais Gogledd Cymru a’r Cynllun Twf yn cyflawni ar gyfer y rhanbarth - hyrwyddo ymchwil, adeiladau ar ein cryfderau rhanbarthol mewn sectorau fel gweithgynhyrchu a chreu swyddi newydd gwerth uchel. Bydd effaith gadarnhaol CanfodAu yn arwyddocaol i fusnesau yng Ngogledd Cymru, nawr ac i’r dyfodol.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargent:

"Mae cyfleuster CanfodAu yn cynrychioli’r union fath o fuddsoddiad blaengar sydd ei angen ar Gymru i adeiladu dyfodol ffyniannus a chynaliadwy. Fel cyn-fyfyriwr balch Prifysgol Wrecsam, rwyf wedi gweld gyda fy llygaid fy hun sut mae’r sefydliad hwn yn trawsnewid bywydau a gyrru cyfleoedd ar draws y rhanbarth. Mae’n fuddsoddiad yn ein pobl, ein diwydiannau, a’n planed."

"Bydd y ganolfan o’r radd flaenaf hon yn allweddol wrth ddatblygu’r sgiliau gweithgynhyrchu gwerth uchel a sgiliau technoleg werdd sy’n hanfodol i’n heconomi. Drwy’r Cynllun Twf Gogledd Cymru, rydym yn cefnogi cyfleusterau fel CanfodAu sudd nid yn unig yn creu swyddi - maent yn creu gyrfaoedd yn niwydiannau yfory, o dechnolegau hydrogen i uwch gyfansoddion. Wrth ddod â chyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf a phartneriaethau diwydiant ynghyd, bydd CanfodAu yn helpu i osod Gogledd Cymru yn arweinydd gweithgynhyrchu cynaliadwy ac arloesedd, gan sicrhau bod gan ein cymunedau’r hawl i swyddi medrus sy’n talu’n dda.”

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin: 

“Twf economaidd yw cenhadaeth flaenaf Llywodraeth y DU ac rydym yn adeiladu ar gryfderau Cymru mewn sectorau twf fel uwch weithgynhyrchu i greu swyddi medrus sy’n talu’n dda. 

“Mae CanfodAu yn gyfleuster newydd gwych sy’n dod â thechnoleg arloesol, galluoedd ymchwil o’r radd flaenaf, a chydweithrediad diwydiant o dan yr un to. Mae ein buddsoddiad yn y ganolfan hon, drwy’r Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn ymgorffori ein dull o greu’r amodau cywir i fuddsoddiad ac arloesedd ffynnu.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction:

“Rwy’n hynod o falch o’n tîm am ddarparu’ cyfleuster blaenllaw hwn ar gyfer prifysgol Wrecsam. O’r dyluniad hyd at y trosglwyddiad, mae ein cydweithio agos â’r Brifysgol wedi bod yn ganolog i lwyddiant y prosiect. 

“Mae’r datblygiad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Wynne Construction i fodloni manylebau cleientiaid, darparu adeilad o ansawdd uchel, a chreu effaith gymunedol barhaol. Rydym yn arbennig o falch o fod wedi cyflawni cynnydd net 30.5% mewn bioamrywiaeth y campws ac wedi rhagori ar ein targedau gwerth cymdeithasol drwy gyflawni 114%, gan ganolbwyntio’n fanwl ar ardaloedd o amddifadedd uchel a nodwyd gan y Brifysgol.”

quotation graphic