Mae busnesau ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i leisio eu barn ar anghenion gweithlu’r dyfodol yn y rhanbarth, fel rhan o’r gwaith i ddatblygu Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth newydd ar gyfer 2026–2028. 

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol - Uchelgais Gogledd Cymru wedi lansio arolwg byr ar-lein i gyflogwyr er mwyn casglu mewnwelediad uniongyrchol i’r heriau sgiliau a recriwtio sy’n wynebu busnesau heddiw, a pha gefnogaeth fydd ei hangen dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd yr adborth yn helpu i lunio Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth tri blynedd nesaf Gogledd Cymru, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion diwydiant mewn amser real ac yn cefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth.

Bydd yr arolwg, sydd ar agor i fusnesau o bob maint, yn cau am 12pm ddydd Gwener, 10 Mawrth.  

Mae economi Gogledd Cymru yn newid yn gyflym, gyda datblygiadau sylweddol, technolegau newydd a newidiadau demograffig i gyd yn chwarae rhan gynyddol wrth siapio anghenion y gweithlu yn y dyfodol.

Trwy dreulio ychydig funudau i gwblhau’r arolwg, mae gan gyflogwyr y cyfle i siapio’n uniongyrchol fuddsoddiad hyfforddiant ledled Gogledd Cymru, dylanwadu ar ddatblygiad llwybrau prentisiaethau a chymwysterau, cefnogi dyluniad ymyriadau sgiliau sector-benodol, ac helpu i lywio blaenoriaethau cyllido rhanbarthol er mwyn sicrhau bod y gweithlu’n cyd-fynd ag anghenion busnesau.

quotation graphic

Dywedodd Cath Morris-Roberts, Swyddog Uwch Cyflawni Sgiliau, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru:

“Bydd y mewnwelediad y mae cyflogwyr yn ei ddarparu drwy gwblhau’r arolwg hwn yn amhrisiadwy i ni, ac yn llywio ac yn siapio ein Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf yn uniongyrchol. Bydd gwybod pa gyfleoedd a heriau y mae cyflogwyr yn eu profi yn sicrhau bod ein gwaith wedi’i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r realiti y maent yn ei wynebu o ddydd i ddydd.”

quotation graphic