-
Gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, Uchelgais Gogledd Cymru
Mae eleni'n nodi cyfnod trawsnewidiol i Uchelgais Gogledd Cymru wrth i ni symud yn bendant i gyflawni prosiectau a fu'n cael eu paratoi ers blynyddoedd. Mae'n gyfnod cyffrous i'r rhanbarth, gyda mentrau a fydd yn sbarduno twf economaidd, yn mynd i'r afael â bylchau sgiliau, a chreu dyfodol gwyrddach a mwy cysylltiedig.
Mae Gogledd Cymru wedi bod yn ymwneud â chydweithio a phartneriaethau erioed, ac eleni byddwn yn gweld y partneriaethau hynny'n dwyn ffrwyth. O Barth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint i Borthladd Rhydd Ynys Môn a Chynllun Twf Gogledd Cymru, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio gyda'n partneriaid ac yn eu cefnogi i wireddu cyfleoedd ar draws sectorau allweddol. Mae'r mentrau hyn yn cynrychioli ymdrech ar y cyd i gael effaith bendant ar fusnesau, cymunedau a'r economi.
Ymhlith y prosiectau sydd bron â chael eu cwblhau mae dwy ganolfan Ymchwil a Datblygu bwysig sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd arloesi a chydweithio mewn busnes. Bydd Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter Prifysgol Wrecsam yn dod yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil uwch ac ymgysylltu â'r diwydiant, tra bydd Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol Prifysgol Bangor yn galluogi datblygiadau arloesol mewn technoleg gynaliadwy.
Mae ein rhaglen eiddo hefyd yn dod yn ei blaen, gan ganolbwyntio ar ddatgloi safleoedd sydd wedi bod yn segur ers tro. Er enghraifft, wrth ailddatblygu safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych byddwn yn trawsnewid tirnod sy'n dirywio yn ddatblygiad defnydd-cymysg bywiog. Yn yr un modd, mae Parc Busnes Bryn Cegin ger Bangor ar fin gweld unedau diwydiannol newydd o safon uchel, sero-net, a fydd o'r diwedd yn cychwyn gweithgarwch ar safle sydd wedi cael trafferth gyda materion hyfywedd ers blynyddoedd.
Mae cysylltedd yn gonglfaen arall i'n hymdrechion. Bydd mentrau digidol, fel y rhai sy'n cael eu harwain gan y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP) ym Mhrifysgol Bangor, yn galluogi busnesau i fabwysiadu technolegau 5G uwch, gan wella cynhyrchiant a chreu swyddi. Yn y cyfamser, bydd buddsoddiadau arfaethedig pellach mewn seilwaith cysylltedd digidol yn sicrhau bod y rhanbarth mewn sefyllfa well i ddenu a chadw busnesau.
O ran ynni, mae ein cefnogaeth i'r prosiect ynni llanw gan Morlais ar Ynys Môn yn enghraifft o'n hymrwymiad i ddyfodol carbon isel. Bydd ehangu Morlais, drwy'r prosiect Cydnerth, yn cynyddu capasiti'r grid, gan ganiatáu i fwy o ddatblygwyr ddefnyddio tyrbinau a chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae'r fenter hon nid yn unig yn cefnogi datgarboneiddio ond mae hefyd yn creu swyddi lleol a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, gan gadarnhau Gogledd Cymru fel arweinydd yn y maes arloesi ynni adnewyddadwy.
Mae taclo'r bylchau sgiliau yn parhau'n flaenoriaeth. Drwy drefniadau cydweithio gyda cholegau, prifysgolion, a'r diwydiant, rydym ni a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn rhoi sylw i heriau gweithlu ar draws sectorau. Mae'r Rhwydwaith Talent Twristiaeth, er enghraifft, yn bartneriaeth gyda'r bwriad o uwch-sgilio gweithwyr yn un o ddiwydiannau allweddol y rhanbarth. Drwy ddatblygu sgiliau yn unol ag anghenion sectorau, rydym yn sicrhau bod gan fusnesau fynediad at y talent y mae arnynt ei angen i ffynnu.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru hefyd yn canolbwyntio ar feithrin cymunedau lleol. Bydd ein cronfa ynni glân yn cefnogi sefydliadau yn y sector preifat a chymdeithasol i ddilyn mentrau cynhyrchu ynni a datgarboneiddio. Drwy yrru cynaliadwyedd ar bob lefel, rydym yn anelu i greu rhanbarth sy'n ffynnu ond sydd hefyd yn gydnerth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Y nod eleni yw cymryd y cam nesaf – gan symud o'r cam cynllunio a pharatoi i gyflawni go iawn. Mae'n benllanw gwaith caled, cydweithio, a gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol Gogledd Cymru. Mae effaith bosibl y mentrau hyn yn enfawr, o greu swyddi a denu buddsoddiad i feithrin arloesedd a mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Wrth i ni gyflawni'r prosiectau hyn, mae ein neges yn glir: Mae Gogledd Cymru yn rhanbarth o gyfleoedd, cydweithio ac uchelgais. Bydd y partneriaethau rydym wedi'u hadeiladu, a'r prosiectau yr ydym yn eu gweithredu nawr, yn creu etifeddiaeth barhaol i fusnesau a chymunedau. Mae'n fraint cael bod yn rhan o'r daith hon, ac edrychaf ymlaen at weld y newid cadarnhaol y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd.