Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ethol y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel ei Gadeirydd newydd a’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Is-Gadeirydd.  

Mae’r Bwrdd yn bartneriaeth rhwng y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru – sy’n cynnwys cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint, a sefydliadau addysgol y rhanbarth – Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai.  

 Fel partneriaeth, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yw’r corff sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer Cynllun Twf y rhanbarth, buddsoddiad o £1 biliwn i economi’r rhanbarth, y mae £240m ohono’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.   

 Mae’r Cynllun Twf yn bortffolio o dros 20 o brosiectau trawsnewidiol ar draws pum rhaglen gyffredinol sy’n canolbwyntio ar y sectorau twf, sef Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, Cysylltedd Digidol, Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch, Tir ac Eiddo ac Ynni Carbon Isel. Mae nifer o brosiectau eisoes ar waith gan gynnwys y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter arloesol ym Mhrifysgol Wrecsam, offer ac ymchwil o’r radd flaenaf yng Nghanolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor a’r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol. Yn ogystal, bydd y Rhwydwaith Talent Twristiaeth trawsnewidiol a arweinir gan Grŵp Llandrillo Menai a’u partneriaid yn y sector preifat ac ailddatblygiad cyn ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych gan weithio gyda Jones Bros yn dechrau yn gynnar yn 2025.  

  • Dywedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

    “Mae’n anrhydedd i mi fod yn cymryd rôl y cadeirydd, ar adeg sy’n gyffrous i’r rhanbarth, o ystyried cynnydd a photensial ein Cynllun Twf. Dim ond diolch i'r dull cydweithredol yr ydym bob amser wedi'i fabwysiadu fel Bwrdd y mae'r gwaith hwn yn bosibl. Gyda’n gilydd rydym yn ystyried y darlun ehangach – gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru gyfan. Fel cadeirydd, byddaf yn sicrhau ein bod yn parhau i weithio’n agos fel Bwrdd, ochr yn ochr â’r ddwy lywodraeth, ein partneriaid ehangach a staff yn y Swyddfa Rheoli Portffolio i yrru’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Twf yn ei flaen.”  

  • Dywedodd y Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Is-Gadeirydd, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

    “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy ethol yn Is-gadeirydd a byddaf yn gweithio’n galed, fel aelod o’n partneriaeth, i gyflawni ein gweledigaeth economi bywiog, cynaliadwy, gwydn a ffyniannus yng Ngogledd Cymru. Gyda’n gilydd gallwn greu twf cynhwysol, swyddi sy’n talu’n dda mewn sectorau ffyniannus a sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y cyfleoedd y maent yn eu haeddu i adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil yn y rhanbarth.”

quotation graphic

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith: “Twf economaidd yw ein prif flaenoriaeth a’r awyr yw terfyn ein huchelgais yng ngogledd Cymru. 

“Mae’r Cynllun Twf yn cynnig miliynau o fuddsoddiad hanfodol, gan ysgogi twf a swyddi.  

 “Rwy’n croesawu’r arweinyddiaeth newydd hon ac yn edrych ymlaen at ddarparu buddsoddiad lle mae ei angen fwyaf.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:   

“Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Mark Pritchard ar ei benodiad yn Gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac i’r Cynghorydd Charlie McCoubrey ar gael ei ethol yn Is-gadeirydd. Mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, yn cefnogi gwaith Cynllun Twf Gogledd Cymru i drawsnewid economi’r rhanbarth.” 

quotation graphic