Penderfynodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn sefyll i lawr fel Arweinydd Cyngor Gwynedd, ac o ganlyniad, fel Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ar 17 Hydref 2024.

quotation graphic

Dywedodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru:

“Ar fy rhan i a’r swyddfa rheoli portffolio, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Dyfrig am ei rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais dros y pum mlynedd diwethaf. Mae arweinyddiaeth Dyfrig wedi bod yn torri tir newydd wrth i ni sicrhau buddsoddiad a chefnogaeth i gyflawni Cynllun Twf ein rhanbarth, ac yn fwy diweddar wrth arwain ar sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Mae ei gyfraniad ar lefel ranbarthol wedi bod yn allweddol i economi Gogledd Cymru ac rydym yn ddiolchgar am ei weledigaeth a’i gefnogaeth ddiwyro dros y blynyddoedd.”

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd yn Is-Gadeirydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd: “Hoffwn achub ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch i Dyfrig. Mae gweithio’n agos gydag ef fel Arweinydd Cyngor ar y Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi bod yn fraint. Byddaf bob amser yn ddiolchgar am ei ysbryd hael - fel gwleidydd oedd bob amser yn gweld y darlun ehangach ac yn ein harwain i wneud gwahaniaethau gwirioneddol a thrawsnewidiol fel rhanbarth."

quotation graphic