Mae buddsoddiad o £3miliwn yn nyfodol gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru wedi symud i'r cam nesaf ar ôl cymeradwyaeth i achos cyfiawnhad busnes gan Uchelgais Gogledd Cymru.
Nod Prosiect Gweithgynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0 dan arweiniad Prifysgol Wrecsam yw cryfhau galluoedd gweithgynhyrchu uwch y rhanbarth yn ogystal â chefnogi'r gwaith o ddatblygu technolegau newydd yn y sector.
Bydd y Prosiect yn gwella CanfodAu - Canolfan Peirianneg ac Arloesi a ariennir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn galluogi i'r diwydiant gael mynediad at adnoddau peirianneg manwl iawn o'r radd flaenaf. Mae'r cyllid arfaethedig ar gyfer Prosiect Gweithgynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0 yn cynnwys £1.5miliwn o Gynllun Twf Gogledd Cymru a £1.5miliwn gan MEDR Llywodraeth Cymru (y Comisiwn Addysg ac Ymchwil Trydyddol), sy'n cefnogi ymchwil ac arloesi ar draws y sector trydyddol.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Arweiniol ar gyfer rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel Cynllun Twf Gogledd Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru:
"Mae prosiect Cymdeithas 5.0 yn ymgorffori'r trawsnewidiad o ffocws Diwydiant 4.0 ar ddatblygiadau technolegol i ymrwymiad Diwydiant 5.0 i ganlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'n gwella ecosystem arloesi ranbarthol Wrecsam trwy gyfuno rhagoriaeth dechnegol â dyluniad cynhwysol, canolog i bobl sy’n cyd-fynd â fframweithiau strategol Cymru a'r DU ar gyfer twf, sgiliau a chynaliadwyedd.
Gan adlewyrchu egwyddorion cysyniad 'Cymdeithas 5.0', y mae'n cymryd ei enw ohono, bydd y prosiect yn defnyddio technolegau uwch i wella ansawdd bywyd, cynaliadwyedd, a lles cymdeithasol ac economaidd. Mae'n adeiladu ar waith presennol Prifysgol Wrecsam yn y CanfodAU, sydd eisoes wedi cyflawni gostyngiadau carbon ac enillion bioamrywiaeth. Disgwylir iddo greu 19 o swyddi medrus, cefnogi 10 busnes sy'n gweithio yn y sector carbon isel a chynhyrchu dros £4miliwn ar gyfer economi Gogledd Cymru.
Dywedodd Yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam:
"Ein gweledigaeth yw cael ein hadnabod fel Prifysgol ddinesig fodern sy'n arwain y byd, sy'n cyflawni ar gyfer ein cymunedau ac ar gyfer twf economaidd cynhwysol yng Ngogledd Cymru. Mae cymeradwyo'r achos cyfiawnhad busnes yn garreg filltir gyffrous yn ein nod o osod Wrecsam a Gogledd Cymru ar flaen y gad ym maes gweithgynhyrchu cynaliadwy. Mae Prosiect Cymdeithas 5.0 yn cynrychioli nid yn unig gynnydd technolegol, ond ymrwymiad i greu gwerth i bobl leol, yr amgylchedd a'r economi."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Bydd Prosiect Gweithgynhyrchu a Gallu Busnes Cymdeithas 5.0 yn cryfhau economi Gogledd Cymru yn y tymor hir, trwy wella sgiliau, cefnogi swyddi gwerth uchel, ac annog cydweithio rhwng prifysgolion, busnesau a phartneriaid yn y sector cyhoeddus.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin:
“Mae Gogledd Cymru eisoes yn gartref i sector gweithgynhyrchu uwch ffyniannus, a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i adeiladu ar y cryfder hwnnw, gan gadarnhau enw da cynyddol y rhanbarth am arloesi.
“Mae Llywodraeth y DU, trwy ein hariannu ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn buddsoddi yn niwydiannau’r dyfodol a fydd yn sbarduno twf economaidd ac yn creu swyddi newydd â sgiliau uchel sy’n talu’n dda.”
Drwy adeiladu ar gryfderau CanfodAu - Canolfan Peirianneg ac Arloesi, y gobaith yw y bydd y prosiect yn cyflymu twf sy'n cael ei arwain gan arloesedd, yn cryfhau sylfaen ddiwydiannol y rhanbarth, ac yn sicrhau y gall Gogledd Cymru chwarae rhan bwysig wrth lunio dyfodol gweithgynhyrchu cynaliadwy, cynhwysol a chysylltiedig yn ddigidol.