Mae ffermwyr yn cael cyfle i dreialu yr arloesiadau a thechnolegau amaethyddol diweddaraf wrth i rwydwaith newydd yng ngogledd Cymru gael ei lansio dros yr haf.
Mae’r prosiect treialon IoT Amaethyddiaeth Glyfar wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a bydd yn cael ei gyflawni gan Mentera ar ran Uchelgais Gogledd Cymru. Mae Mentera bellach yn chwilio am 16 o ffermydd ledled gogledd Cymru i ymuno â’r rhwydwaith newydd.
Bydd y ffermydd a ddewisir ar gyfer y rhwydwaith yn cael y cyfle i gynnal treialon a ariennir yn llawn mewn meysydd ffermio lle hoffen nhw ganolbwyntio ar dechnoleg LoRaWAN (Long Range Wide Area Network). Bydd cael eu dewis i fod yn rhan o’r rhwydwaith a’r treialon yn helpu ffermwyr yng ngogledd Cymru i harneisio pŵer y Rhyngrwyd Pethau (IoT) i wella effeithlonrwydd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd eu ffermydd.
Bydd y pwyslais ar arloesi a thechnolegau LoRaWAN yn cefnogi’r ymdrech i gyflwyno technoleg ymarferol i helpu gyda monitro a rheoli gwahanol agweddau ar waith beunyddiol ffermydd. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu’r ffermwyr a ddewisir i gyrraedd eu nodau busnes.
Mae Mentera yn chwilio am geisiadau gan ffermwyr brwdfrydig, uchelgeisiol a blaengar yng ngogledd Cymru sydd eisiau datblygu eu busnesau a’u defnydd o dechnoleg.
Bydd y ffermydd yn elwa ar gryn dipyn o gymorth prosiect ac arweiniad gan arbenigwr Tech-Amaeth (a ariennir yn llawn) i roi’r dechnoleg ar waith a’i gwerthuso. Bydd y dechnoleg ei hun yn ceisio mynd i’r afael â heriau penodol ar y gwahanol ffermydd.
Yn ôl Siwan Howaston, Pennaeth Technegol gyda Mentera, mae ffermwyr a fu’n rhan o rwydweithiau tebyg yn y gorffennol o dan raglen Cyswllt Ffermio, a reolir gan Mentera, wedi dysgu pa dechnolegau sy’n gweithio’n dda er mwyn cael buddion pendant.
Ymhlith yr enghreifftiau o dreialon LoRaWAN blaenorol ar ffermydd fel rhan o rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, mae:
- Optimeiddio’r Defnydd o Slyri: Ar fferm arddangos ger Caergybi, defnyddiwyd synwyryddion LoRaWAN i fonitro lleithder a thymheredd y pridd mewn amser real. Galluogodd hyn y ffermwr i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata ynghylch pryd i daenu slyri a gwneud y mwyaf o’i effeithiolrwydd, gan leihau’r risg o faetholion yn llifo i ffwrdd a llygredd. Helpodd y dull arloesol hwn y fferm i weithredu’n fwy cynaliadwy a rhoddodd enghraifft ymarferol i ffermwyr o sut gallan nhw fodloni rheoliadau amgylcheddol.
- Gwell Rheolaeth ar Ddŵr: Mae synwyryddion LoRaWAN wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus i roi data amser real ar lefelau dŵr mewn cafnau a thanciau. Mae hyn nid yn unig yn rhoi tawelwch meddwl i ffermwyr, ond hefyd yn helpu i nodi gollyngiadau’n gyflym, gan arbed dŵr a lleihau costau sy’n gysylltiedig â difrod i seilwaith a cholli dŵr.
- Monitro Da Byw a Seilwaith: Mae treialon ar ffermydd wedi dangos sut mae modd defnyddio LoRaWAN i dracio da byw a monitro seilwaith fferm. Mae modd defnyddio’r dechnoleg hon i atal lladrad da byw, rheoli patrymau pori, a gwirio statws gatiau neu beiriannau o bell, gan arbed amser a gwaith.
- Cnydio Manwl Gywir ac Iechyd y Pridd: Drwy ddefnyddio probiau pridd sy’n galluogi LoRaWAN, mae ffermwyr wedi cael gwybodaeth werthfawr ar iechyd y pridd, gan gynnwys lefelau lleithder, pH, a chyfansoddiad maetholion. Mae’r data yma’n caniatáu i ffermwyr ddefnyddio dŵr a gwrtaith yn fwy manwl gywir, gan arwain at fwy o gynnyrch, llai o wastraff, a phridd a chanddo ecosystem iachach.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr yng ngogledd Cymru fod ar flaen y gad o ran arloesi amaethyddol,” meddai Siwan. “Mae mabwysiadu technolegau fel LoRaWAN yn hanfodol i greu busnesau fferm mwy gwydn, cynhyrchiol a chynaliadwy. Rydyn ni’n annog pob ffermwr sydd â diddordeb i ymgeisio a’n helpu i adeiladu dyfodol mwy technolegol datblygedig i amaeth yng ngogledd Cymru.”
Bydd ffermydd o’r sectorau llaeth, cig coch, moch, dofednod, ffermio âr a garddwriaeth o ardaloedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam yn gallu ymuno â’r rhwydwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Arweiniol Rhaglen Cysylltedd Digidol Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae gan y prosiect hwn botensial trawsnewidiol sylweddol i’r ffermwyr sy’n cymryd rhan. Mae’r holl offer yn cael ei ddarparu a’i osod, gyda’r dewis i barhau i’w ddefnyddio os yw’r treial yn profi’n fuddiol – felly mae gwir botensial i elwa’n fawr."
Cynhelir y treialon rhwng mis Medi a 1 Mawrth 2026.
Gallwch ymgeisio o ddydd Mercher, 30 Gorffennaf 2025, tan hanner nos ddydd Mercher, 27 Awst 2025, a hynny ar wefan Mentera