Yn ein cyfres sain gyda Business News Wales byddwn yn clywed gan gynrychiolwyr y pum prosiect newydd sy’n datblygu achosion busnes gyda’r nod o sicrhau lleoedd o fewn portffolio Cynllun Twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Y cyntaf i ymddangos yw Roger Morris, Rheolwr Gyfarwyddwr Stage Fifty sy'n gweithredu, dylunio ac adeiladu amgylcheddau stiwdio ffilm a theledu.
Mae Roger yn datgelu cynllun uchelgeisiol i sefydlu campws creadigol o’r radd flaenaf yng Ngogledd Cymru, gan ddarparu ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu gyda’r gobaith o gael cefnogaeth gwerth £6.8m o Gynllun Twf Gogledd Cymru.
Darganfyddwch fwy yma!