Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Code First Girls wedi dod at ei gilydd i gynnig cyrsiau codio am ddim i fenywod a phobl anneuaidd a chyflei brofi swyddi technoleg mewn sefydliadau mawr fel Deloitte, BT, Nike a GCHQ. Nod y fenter yw cau'r bwlch sgiliau rhyw mewn technoleg, ar adeg pan mai dim ond 19% o'r rhai sy'n astudio cyfrifiadureg ôl-16 oed sy'n fenywod.
Fel rhan o'r bartneriaeth newydd, mae Code First Girls (CFG) yn galw ar fenywod a phobl anneuaidd yn y gogledd i gofrestru ar gyfer hyfforddiant am ddim i'w paratoi ar gyfer yr hyn sy'n prysur ddod y proffesiwn sy'n tyfu gyflymaf a'r proffes un sydd â’r mwyaf o alw amdano. Maen nhw hefyd yn apelio at sefydliadau sydd am arallgyfeirio eu timau technoleg i gysylltu a chwarae rhan yn y gwaith o newid y dirwedd dechnolegol.
Mae 5,075 o gwmnïau digidol ledled Cymru gyda chyfanswm trosiant o £3biliwn. Mae ymchwil yn dangos bod cyflogwyr yng Nghymru yn galw am godwyr a phobl â sgiliau digidol ac mae busnesau'n awyddus i sicrhau gweithlu mwy amrywiol. Mae'n sector sy'n tyfu ond mae sgiliau'n brin yn gyffredinol.
Dywedodd Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol o dîm Sgiliau a Chyflogadwyedd Uchelgais Gogledd Cymru: "Dydi'r cyfle a'r galw am sgiliau codio erioed wedi bod mor uchel - mae'n dod yn allweddol i gynifer o sectorau mewn economi amrywiol. Dyma un o'r rhesymau pam rydyn ni’n falch o weld rhaglen CFG yn cael ei chyflwyno yma. Yn ogystal â darparu hyfforddiant o'r radd flaenaf, gallant roi'r ateb i'r galw cynyddol am ddatblygwyr drwy gysylltu sefydliadau â thalent fenywaidd.
"Ein gobaith yw y bydd y gwaith yn sicrhau llif o ddatblygwyr iau benywaidd ac anneuaidd yn ogystal â chodi ein proffil fel rhanbarth delfrydol ar gyfer busnes a chryfhau cysylltiadau â sefydliadau rhyngwladol."
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Code First Girls wedi dod yn un o'r darparwyr mwyaf o gyrsiau codio am ddim i ferched, ac mae wedi darparu gwerth dros £40miliwn o addysg dechnoleg am ddim.
Pan sefydlwyd y fenter yn 2017 y nod oedd addysgu dros 20,000 o fenywod ifanc a phobl anneuaidd yn y DU ac Iwerddon sut i godio. Mae wedi mynd y tu hwn i’r nod hwn, ac ar ôl dysgu dros 60,000 o fenywod hyd yma, mae’n tyfu ledled y DU ac yn rhyngwladol gyda rhaglenni ar draws sawl gwlad gan gynnwys India, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Oman ac UDA.
Anna Brailsford yw Prif Weithredol Code First Girls: "Rydyn ni’n tyfu'n gyflym ledled y DU, gan roi mynediad i addysg dechnoleg am ddim sy'n uniongyrchol gysylltiedig â chwmnïau cyffrous a chyfleoedd gwaith, i ferched a phobl anneuaidd yng Nghymru. Fel busnes effaith gymdeithasol, rydym ar genhadaeth i drawsnewid y dirwedd dechnolegol, ac i gael mwy o dalent benywaidd ac anneuaidd i mewn i swyddi.
"Mae cael amrywiaeth o feddwl mewn technoleg yn fantais gystadleuol i fusnesau ac rydym yn falch iawn o gynnig ateb i'r angen cynyddol am dalent technoleg amrywiol sy'n hanfodol i fynd i'r afael â heriau sylfaenol sy'n wynebu ein cymdeithas - o adfer ar ôl COVID-19 i amddiffyn seiberddiogelwch rhyngwladol."
Yn ogystal ag Uchelgais Gogledd Cymru, mae CFG wedi gweithio gyda sefydliadau a busnesau eraill ledled Cymru gan gynnwys Admiral, Veygo, Sefydliad Cognizant, TPXImpact, Openreach a'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO).
I gymryd rhan, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn annog pobl i gofrestru ar-lein yn Code First Girls - learn to code for free