Rhoddwyd croeso cynnes gan Uchelgais Gogledd Cymru i'r cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd cyllid o'r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol yn cael ei ddosbarthu i gynghorau ledled y rhanbarth, a fydd yn arwain at weithredu ystod eang o welliannau teithio a thrafnidiaeth.
Mae'r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol yn fecanwaith ariannu newydd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2026.
Mae'r cynlluniau i'w hariannu yn deillio o'r polisïau a'r ymyriadau a nodir yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 2025-2030 – cynllun a ddatblygwyd gan Uchelgais Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae'r datblygiadau, a fydd yn digwydd ar draws chwe ardal awdurdod lleol y Gogledd dros y flwyddyn nesaf, yn gymysgedd o welliannau i wasanaethau a seilwaith yn ogystal â gwaith paratoi wedi'i ariannu, megis astudiaethau dichonoldeb, dyluniadau ac achosion busnes.
Bydd y cyllid o fudd i ddiogelwch ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, priffyrdd a theithio llesol, gyda phrosiectau wedi'u cynllunio i ddarparu system drafnidiaeth sy'n fwy hygyrch, cynaliadwy, fforddiadwy ac integredig ar gyfer y rhanbarth.
Gyda'r cyllid yn y broses o gael ei ddyrannu, o fis Ebrill ymlaen bydd awdurdodau lleol yn dechrau cyflwyno'r cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Mae cyrraedd y cam hwn yn gamp sylweddol i'r rhanbarth, sy'n adlewyrchu'r cydweithrediad a'r gwaith cydlynu cryf rhwng y cynghorau, gyda chefnogaeth Uchelgais Gogledd Cymru yn ei rôl fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth. Bydd cynnydd yn cael ei fonitro a'i adolygu gan ei Is-bwyllgor Trafnidiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig:
"Mae'r cytundeb ar gynlluniau, a'r cyllid dilynol a ddaw gan Lywodraeth Cymru, yn garreg filltir gwirioneddol i ni yma yng ngogledd Cymru. Mae'n dyst i waith caled ac ymrwymiad ein rhan-ddeiliaid a'n partneriaid, sy'n gweithio gyda'i gilydd er budd cymunedau a busnesau yn lleol ac yn rhanbarthol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Glyn Banks, Is-gadeirydd y Pwyllgor:
"Mae gennym sylfeini rhanbarthol rhagorol i adeiladu arnynt wrth i'r prosiectau trafnidiaeth y cytunwyd arnynt fynd rhagddi a'u cwblhau, a phrosiectau dilynol yn dechrau. Bydd gwaith y cynghorau i wireddu'r cynlluniau yn cefnogi'r economi ranbarthol, yn gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau, ac yn helpu i greu system drafnidiaeth fwy cysylltiedig a gwydn ar gyfer y dyfodol - un sy'n hyrwyddo twf economaidd, cynhwysiant a llesiant."
Dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:
"Rwy'n falch iawn o gadarnhau bron i £30m o gyllid, fel rhan o'r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol, i gynghorau ar draws gogledd Cymru. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i rwydwaith trafnidiaeth y rhanbarth gan y bydd yr arian hwn o fudd uniongyrchol i gymunedau ar draws pob ardal awdurdod lleol, gan gyflawni gwelliannau gwirioneddol i fywydau beunyddiol pobl.
“Mae’r cynlluniau sy’n cael eu hariannu yn adlewyrchu’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol, Uchelgais Gogledd Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd y cydweithio hwn yn helpu i ddarparu’r system drafnidiaeth gysylltiedig, gynaliadwy a fforddiadwy y mae pobl gogledd Cymru yn ei haeddu.
“O welliannau teithio llesol yn Wrecsam i arian a neilltuwyd i Sherpa’r Wyddfa a gwasanaethau bysiau eraill yng Ngwynedd; rwy’n falch y bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau’r economi ac yn gwneud bywyd yn haws i bobl ar draws y rhanbarth.”
Cynlluniau a fydd yn derbyn cyllid ar gyfer dylunio, datblygu neu adeiladu yn y flwyddyn ariannol 2026/27 yw:
|
Conwy |
|
Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd Diogelwch Ffyrdd |
|
Diogelwch Ffyrdd: Ymyriadau Addysgol |
|
Cerdded, Olwyno a Beicio |
|
Teithio Llesol Bae Penrhyn |
|
Llwybr Teithio Llesol Strategol Towyn i'r Rhyl |
|
Teithio Llesol Dolgarrog |
|
Môr i'r Mynydd/ Llwybr Teithio Llesol Strategol o'r Arfordir i'r Dyffryn |
|
Teithio Llesol Canol Tref Bae Colwyn |
|
Teithio Llesol Llysfaen |
|
Craidd Teithio Llesol |
|
Cerbydau Allyriadau Isel Iawn |
|
Pwyntiau gwefru cyhoeddus mewn meysydd parcio cyhoeddus a chydgysylltu gwybodaeth, Conwy |
|
Priffyrdd |
|
Gwella llwybr y B5106 |
|
A470 Pont Dros y Rheilffordd Cyffordd Llandudno |
|
Promenâd Bae Colwyn - Ffordd Rotari i Borth Eirias |
|
Sir Ddinbych |
|
Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd Diogelwch Ffyrdd |
|
Gwelliannau capasiti a diogelwch / gwelliannau mannau cyfyng: Safleoedd Clwstwr Gwrthdrawiadau Sir Ddinbych |
|
Diogelwch Ffyrdd: Ymyriadau Addysgol |
|
Cerdded, Olwyno a Beicio |
|
Ffordd Nant Hall, Prestatyn |
|
Brook Street/Maes Pengwern |
|
Ail Gam Corwen i Gynwyd |
|
Pont H, Y Rhyl |
|
Pwll y Grawys Dinbych |
|
Ffordd Rhuthun, Ffordd Ystrad, Dinbych |
|
B4501 i Lôn Dewi Sant, Dinbych |
|
Craidd Teithio Llesol |
|
Cludiant Cyhoeddus |
|
Rhwydwaith bysiau a choetsis gwledig rhanbarthol Sir Ddinbych |
|
Seilwaith gwybodaeth amser real mewn gwahanol ganolfannau bysiau, Sir Ddinbych |
|
Sir y Fflint |
|
Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd Diogelwch Ffyrdd |
|
Gwelliannau capasiti a diogelwch/gwelliannau mannau cyfyng: Safleoedd Clwstwr Gwrthdrawiadau, Sir y Fflint |
|
Diogelwch Ffyrdd: Ymyriadau Addysgol |
|
Cerdded, Olwyno a Beicio |
|
Llwybrau Diogel mewn cymunedau/cludiant o'r cartref i'r ysgol, Sir y Fflint |
|
Bagillt i Faes-glas |
|
Cysylltiadau Teithio Llesol i Bont Dyfrdwy yr A494 |
|
Craidd Teithio Llesol |
|
Cludiant Cyhoeddus |
|
Rhwydwaith bysiau a choetsis gwledig rhanbarthol, Sir y Fflint |
|
Gwella Seilwaith Bysiau Gogledd Cymru - mesurau blaenoriaethu bysiau yng Ngogledd Cymru |
|
Cerbydau Allyriadau Isel Iawn |
|
Pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus a chydlynu gwybodaeth, Sir y Fflint |
|
Priffyrdd |
|
Cynnal a Gwella priffyrdd, Sir y Fflint |
|
Gwella capasiti a diogelwch / gwelliannau mannau cyfyng: adnewyddu goleuadau stryd |
|
Gwynedd |
|
Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd Diogelwch Ffyrdd |
|
Gwelliannau capasiti a diogelwch/gwelliannau mannau cyfyng: Safleoedd Clwstwr Gwrthdrawiadau yng Ngwynedd |
|
Diogelwch Ffyrdd: Addysgiadol |
|
Cerdded, Olwyno a Beicio |
|
Llwybrau Diogel mewn cymunedau / cludiant o'r cartref i'r ysgol, Gwynedd |
|
Gwella Teithio Llesol Lleol mewn prif aneddiadau (Bangor, Porthmadog, Caernarfon, Pwllheli, Tywyn, Y Bala, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau, Y Felinheli, Bethesda, Abermaw) |
|
Llwybr Teithio Llesol Chwilog i Afonwen |
|
Llwybr Teithio Llesol Tywyn i Aberdyfi |
|
Craidd Teithio Llesol |
|
Cludiant Cyhoeddus |
|
Gweithredu rhwydwaith trawsnewid bysiau Gwynedd |
|
Rhwydwaith bysiau a choetsis gwledig rhanbarthol Gwynedd |
|
Cerbydau Allyriadau Isel Iawn |
|
Gwella pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus a chydlynu gwybodaeth, Gwynedd |
|
Priffyrdd |
|
Gwelliannau i Drafnidiaeth Llanbedr |
|
Gwelliannau Cydnerthedd Rhwydwaith Trafnidiaeth: A499 Ffordd Penrhos – gwelliannau i liniaru llifogydd |
|
Prosiect Porth Caernarfon |
|
Cynnal a gwella priffyrdd, Gwynedd |
|
Ynys Môn |
|
Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd Diogelwch Ffyrdd |
|
Diogelwch Ffyrdd: Ymyriadau Addysgol |
|
Diogelwch Ffyrdd: Gwella Digwyddiadau ar y Briffordd |
|
Cerdded, Olwyno a Beicio |
|
Annog teithio cynaliadwy: Gwelliannau i gylchfan Four Crosses A5025/ B5420 |
|
Llwybrau Diogel mewn cymunedau/ cludiant o'r cartref i'r ysgol, Ynys Môn |
|
Teithio Llesol Llanfairpwll (Lôn ‘Refail i Lôn Graig) |
|
Teithio Llesol Malltraeth i Niwbwrch |
|
Teithio Llesol Benllech |
|
Teithio Llesol Gaerwen |
|
Teithio Llesol Amlwch (Cyfnod 1 a Chyfnod 2 ar y B5111) |
|
Craidd Teithio Llesol |
|
Cludiant Cyhoeddus |
|
Integreiddio â gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus strategol: Gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn Ynys Môn |
|
Rhwydwaith bysiau a choetsis gwledig rhanbarthol Ynys Môn |
|
Teithiau tacsi â chymhorthdal mewn ardaloedd gwledig i lenwi "bylchau" mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar Ynys Môn |
|
Cerbydau Allyriadau Isel Iawn |
|
Pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus a chydlynu gwybodaeth, Ynys Môn |
|
Priffyrdd |
|
Safleoedd Cydnerthedd Lairds Ffordd Biwmares (B5109) a'r A454 Ffordd Biwmares |
|
Prosiect Ffordd Cydnerthedd yr A5 (Pentre Berw) |
|
Cyfnewidfa Drafnidiaeth Niwbwrch |
|
Wrecsam |
|
Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd Diogelwch Ffyrdd |
|
Gwelliannau capasiti a diogelwch/gwelliannau mannau cyfyng: Safleoedd Clwstwr Gwrthdrawiadau Wrecsam |
|
Diogelwch Ffyrdd: Ymyriadau Addysgol |
|
Cerdded, Olwyno a Beicio |
|
Coridor teithio llesol Ffordd yr Wyddgrug (Canol y ddinas) |
|
Coridor Teithio Llesol Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt |
|
Wrecsam - Gwersyllt trwy Rhosrobin |
|
Teithio llesol fel cludiant o'r cartref i'r ysgol, Wrecsam |
|
Craidd Teithio Llesol |
|
Cludiant Cyhoeddus |
|
Cynllun Trafnidiaeth Strategol Dinas Wrecsam |
|
Cerbydau Allyriadau Isel Iawn |
|
Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus a chydlynu gwybodaeth, Wrecsam |
|
Priffyrdd |
|
Cynnal a gwella priffyrdd (yn cynnwys treialon cynnal a chadw arloesol), Wrecsam |
Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gwelliannau pellach yn cael eu gweithredu gyda chyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer cynlluniau blaenoriaeth presennol a newydd.
Crëwyd y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol yn dilyn Adolygiad Moderneiddio Grantiau Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o symleiddio ac alinio cyllid trafnidiaeth â'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a ddatblygwyd gan y pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru. Mae'r Gronfa yn disodli nifer o grantiau cyfalaf a refeniw trafnidiaeth awdurdodau lleol presennol.