Bydd trigolion pentref ar Ynys Môn yn gallu mwynhau manteision band eang cyflym iawn o’r wythnos hon diolch i ymdrechion partneriaid cymunedol. Ar ôl blynyddoedd o frwydro gyda mynediad cyfyngedig i’r rhwydwaith, ymunodd trigolion Llangoed â phartneriaid lleol i fynd i'r afael â'r mater. Maen nhw wedi gallu manteisio ar Bartneriaeth Gymunedol Ffeibr (Fibre Community Partnership - FCP) sy’n cael ei redeg gan Openreach a’i wneud yn bosib gyda chymorth cynllun Talebau Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU.
Mae’r cysylltiad newydd, sy’n mynd yn fyw yr wythnos hon yn gam sylweddol ymlaen i’r gymuned hon sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth Cysylltedd Digidol Gwledig, cynllun Uchelgais Gogledd Cymru sy’n cael ei redeg gan Menter Môn. O’r diwedd, gall cartrefi a busnesau gael mynediad at ryngrwyd cyflym, wedi blynyddoedd o gysylltedd digidol annigonol.
Dywedodd Jonathan Lewis sy’n aelod o bwyllgor Neuadd Bentref Llangoed:
“Byddwn yn dechrau gweld budd o’n cysylltiad newydd yn syth. Gallwn gynnal bob math o ddigwyddiadau yn y neuadd rŵan nad oedd yn bosib o’r blaen – o ffrydio cynyrchiadau opera a ballet i sioeau’r National Theatre, cyngherddau a digwyddiadau chwaraeon. Rydym wedi creu ystafell gyfarfod hefyd gydag offer clyweledol llawn, lle byddwn yn medru cynnal cyfarfodydd busnes, cyflwyniadau a sesiynau briffio.
"I ni, nid dim ond cysylltu â’r rhyngrwyd yn gyflymach oedd pwrpas y prosiect yma; mae'n ymwneud â dod a’r gymuned at ei gilydd. Ar ôl blynyddoedd o ddelio â band eang araf ac annibynadwy, o'r diwedd bydd gan y pentre a’r ardal gyfagos y gysylltedd sydd ei angen arnom i wneud y mwyaf o gyfleoedd."
Mae’r ardal yma ar Ynys Môn ymhlith 21 ar draws Gogledd Cymru sy’n cael eu cefnogi i weithio tuag at gael band eang cyflym fel hyn. Yn ogystal â chyfeirio at FCP, mae’r cynllun Cysylltedd Digidol Gwledig hefyd yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau lloeren a 4G mewn gwahanol ardaloedd na fyddai fel arall yn gallu cael mynediad at rwydweithiau dibynadwy.
Mae’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd yn Arweinydd Rhaglen Cysylltedd Digidol ar Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru. Ychwanegodd:
“Rydym wrth ein bodd bod Llangoed yn un o'r ardaloedd sydd wedi gallu elwa o gynllun megis FCP. Mae ein menter Cysylltedd Digidol Gwledig yn dal ar agor i gymunedau sy'n teimlo’n rhwystredig am fethu â gallu elwa o wasanaethau hanfodol ar-lein.
"Rydym yn awyddus i weithio gyda mwy o gymunedau fel Llangoed i wella’r gallu ar draws y rhanbarth cyfan i ateb y galw cynyddol am gysylltedd gwell. Nid dim ond cael pobl ar-lein yw pwrpas prosiectau fel hyn; mae’n ymwneud â chysylltu cymunedau â chyfleoedd newydd. Rydym am alluogi busnesau i dyfu, myfyrwyr i gael mynediad at gyfleoedd dysgu ychwanegol, a theuluoedd i gadw mewn cysylltiad."
Mae Cysylltedd Digidol Gwledig ar gael ar draws pob un o chwe sir y gogledd. Mae wedi’i reoli gan Menter Môn yn y gorllewin a Cadwyn Clwyd yn y dwyrain. Bydd y cynllun yn rhedeg am fis arall ac mae trigolion mewn cymunedau gwledig fel Llangoed yn cael eu hannog i gysylltu â thîm y prosiect fel y gallent hefyd sicrhau mynediad at wasanaethau band eang a digidol cyflymach.