• gan Sioned Williams, Cadeirydd Bwrdd Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru

    Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynrychioli mwy na buddsoddiad sylweddol i'n rhanbarth; mae'n ymrwymiad ar y cyd i dwf sy'n gynhwysol, yn gynaliadwy ac yn drawsnewidiol. 

quotation graphic

Fel Cadeirydd Bwrdd Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, rwyf wedi gweld sut mae cydweithio ymhlith awdurdodau lleol, busnesau, sefydliadau addysgol a chyrff y llywodraeth wedi dod yn hanfodol i sicrhau llwyddiant hirdymor y Cynllun Twf. Mae'r dull cydweithredol hwn nid yn unig yn sicrhau bod adnoddau'n cael eu huchafu ond bod y buddion yn cyrraedd pob cornel o Ogledd Cymru.

Dechreuodd ein llwybr at bartneriaeth dros ddegawd yn ôl, ymhell cyn i'r Cynllun Twf ei hun gael ei lofnodi ym mis Rhagfyr 2020. Bryd hynny, roedd awdurdodau lleol a sefydliadau yn gweithio ar eu pennau eu hunain i raddau helaeth, pob un yn dilyn ei brosiectau ei hun i gefnogi'r rhanbarth. Daeth yn amlwg yn fuan, fodd bynnag, bod angen dull unedig o ymdrin â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r Gogledd. Wrth i ni symud y tu hwnt i ffiniau sefydliadol, gwelsom y gallai gweithredu ar y cyd ddarparu'r sgiliau, yr adnoddau a'r newidiadau polisi sydd eu hangen i yrru newid parhaol, go iawn.

Un o'n prif amcanion yw creu cyfleoedd ar gyfer twf cynhwysol, gan sicrhau bod ein buddsoddiadau o fudd i gymunedau ledled y Gogledd. Ni ellir cyflawni'r uchelgais hon trwy gyllid ar raddfa fawr yn unig. Ochr yn ochr â buddsoddiad ariannol, rhaid i ni adeiladu diwylliant o gydweithio ymhlith partneriaid rhanbarthol a'r sector preifat, gan greu ecosystem sy'n denu talent newydd, yn hyrwyddo entrepreneuriaeth, ac sy'n datblygu gweithlu medrus sy'n cyd-fynd ag anghenion ein diwydiannau. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod y buddion yn ymestyn y tu hwnt i greu swyddi ar unwaith i ysgogi gweithgarwch economaidd ehangach a ffyniant hirdymor.

Mewn rhanbarth sydd â chryfderau mor wahanol – o weithgynhyrchu gwerth uchel a thechnolegau uwch i dwristiaeth ac amaethyddiaeth – mae ein rôl ni yn golygu cyfeirio cyllid lle bydd yn cael yr effaith fwyaf, yn ogystal â chysylltu busnesau lleol, sefydliadau ymchwil, a buddsoddwyr posibl. Gyda buddsoddiadau sylweddol wedi'u cynllunio ar draws seilwaith digidol, datblygu sgiliau, a chymorth cadwyn gyflenwi, bydd cydweithio yn sicrhau bod y Gogledd yn parhau i addasu i ofynion datblygol diwydiannau gan barhau i fod yn lle deniadol i fyw a gweithio.

Fodd bynnag, nid yw cydweithio yn dod heb ei heriau. Gall newidiadau mewn arweinyddiaeth wleidyddol a newidiadau polisi ar lefelau lleol a chenedlaethol effeithio ar ein strategaethau, gan amlygu'r angen am ddull hyblyg a gwydn o weithio mewn partneriaeth. Mae'r gallu hwn i addasu yn ein galluogi i ymateb i anghenion a chyfleoedd newydd wrth iddynt godi. Yn ogystal, gyda llawer o fentrau lleol yn dibynnu ar rwydwaith eang o raglenni cymorth, ein tasg barhaus yw symleiddio'r gefnogaeth hon, gan ei gwneud yn haws i fusnesau ac unigolion gael mynediad at adnoddau perthnasol heb wynebu rhwystrau biwrocrataidd.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn fwy na set o brosiectau'r Cynllun Twf. Mae'n genhadaeth ar y cyd i wneud y Gogledd yn ganolbwynt economaidd ffyniannus lle gall busnesau dyfu, ac y gall cymunedau ffynnu. Ein cyfrifoldeb ni – a'n cyfle ni – yw gwneud cydweithio yn werth craidd, gan ddwyn ynghyd gryfderau'r sectorau cyhoeddus a phreifat i greu sylfaen ar gyfer llwyddiant y rhanbarth. Wrth i ni barhau â'r daith hon, rwy'n hyderus y bydd ein hymdrechion cyfunol yn arwain at Ogledd Cymru sy'n fwy gwydn, arloesol a chynhwysol am genedlaethau i ddod.

quotation graphic

Dysgwch fwy am Uchelgais Gogledd Cymru: