Mae datblygiad Gwaith Treulio Anaerobig Glannau Dyfrdwy yn mynd rhagddo heb fod angen cyllid sector cyhoeddus y Cynllun Twf - wedi i fuddsoddiad ychwanegol gan y sector preifat gael ei sicrhau ar gyfer y prosiect.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru – sy'n cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru, a The Circular Economy (TCE) - ei bartner ar brosiect Glannau Dyfrdwy, wedi cyhoeddi y bydd y datblygiad yn mynd rhagddo heb yr angen am £6.4 o gyllid y Cynllun Twf. Mae'r canlyniad llwyddiannus hwn wedi bod yn bosibl diolch i'w cydweithrediad agos, a alluogodd i fuddsoddwr ymrwymo'r gofyniad ariannu a oedd yn weddill ar gyfer y safle drwy Gronfa Seilwaith Cynaliadwyedd Abrdn.

Bydd Gwaith Treulio Anaerobig Glannau Dyfrdwy yn defnyddio gwastraff bwyd o'r ardal i gynhyrchu ac allforio trydan gwyrdd a bionwy at ddefnydd masnachol. ⁠ Ochr yn ochr â chreu cyflogaeth gwerth uchel, bydd yn lleihau allyriadau CO2 ac yn darparu ffynhonnell ynni carbon isel y mae mawr ei hangen ar gyfer diwydiant lleol – gan gynnwys helpu Cyfleuster Gweithgynhyrchu Toyota lleol i gyrraedd targedau datgarboneiddio. ⁠Yna bydd y gweddillion treuliad wedi'u prosesu yn cael eu defnyddio i gynhyrchu gwrtaith ar gyfer ffermydd lleol a bydd CO2 yn cael ei ddal a'i ailddefnyddio gan ddiwydiant, felly bydd y safle newydd yn garbon negyddol. 

quotation graphic

Dywedodd Mac Andrade, Prif Weithredwr, The Circular Economy Developments Ltd:

“Rydym yn gyffrous i gadarnhau ein hymrwymiad i Lannau Dyfrdwy fel lleoliad pencadlys TCE. Mae’r penderfyniad hwn yn atgyfnerthu ein hymroddiad i gefnogi twf lleol, creu cyfleoedd swyddi cynaliadwy, a chyfrannu’n gadarnhaol at dirwedd economaidd y rhanbarth.

“Mae ein cydweithrediad ag Uchelgais Gogledd Cymru wedi bod yn allweddol wrth symud amcanion y prosiect ymlaen. Drwy gydweithio’n agos, rydym wedi cryfhau ein hymrwymiad ar y cyd i ddatblygu cynaliadwy yng Nglannau Dyfrdwy, gan feithrin cysylltiadau ystyrlon a fydd yn sbarduno twf lleol ac yn cefnogi economi wyrddach.”

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda TCE dros y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu Gwaith Treulio Anaerobig Glannau Dyfrdwy. Rydym yn falch iawn bod llwyddiant y gwaith sylfaen cydweithredol hwn bellach yn cael ei adlewyrchu wrth sicrhau'r cyllid ychwanegol hwn gan y sector preifat. Mae'r ffaith bod hyn yn golygu na fydd y prosiect bellach angen cyllid drwy'r Cynllun Twf yn newyddion cadarnhaol, oherwydd o ganlyniad gallwn nawr gyfeirio ein buddsoddiad mewn mannau eraill yn y rhanbarth i gefnogi datblygiad a thwf economaidd.

"Mae ein partneriaeth hyd yma gyda TCE wedi dangos sut y gall cyfranogiad y sector cyhoeddus dynnu'r risg o brosiectau, gan eu gwneud yn fwy deniadol i fuddsoddiad preifat. Gobeithiwn y bydd hyn yn fodel ar gyfer sut y gellir strwythuro prosiectau yn y dyfodol i gyflawni'r canlyniadau economaidd a chymdeithasol gorau. Er nad yw'n rhan o'r Cynllun Twf bellach, byddwn yn parhau i ymgysylltu a chefnogi TCE lle bo hynny'n briodol. Rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn cyflawni ar gyfer Gogledd Cymru." 

quotation graphic

Fe wnaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru dderbyn bod y prosiect yn cael ei dynnu'n ôl yn ffurfiol o'r Cynllun Twf yn eu cyfarfod ar 8 Tachwedd.