• gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd

    Mae sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) yn ddatblygiad sylweddol mewn llywodraethu lleol yng Nghymru, yn enwedig i ni yn y Gogledd. 

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn endid llywodraeth leol rhanbarthol newydd, wedi eu creu yn gyfreithiol o dan yr un deddfau a rheoliadau â chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. Mae ein Cyd-bwyllgor Corfforedig yma yn y Gogledd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r chwe chyngor cyfansoddol sef Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, a Wrecsam, yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Eryri ar gyfer materion cynllunio. 

 

Yn ei hanfod, mae'n endid llywodraeth leol newydd ar lefel ranbarthol gyda chyfrifoldebau ac amcanion penodol. 

Yn y Gogledd, mae gan y Cyd-bwyllgor ddwy brif ddyletswydd statudol, sef datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chynllun Datblygu Strategol. Mae'r cynlluniau hyn yn hanfodol ar gyfer cynllunio gofodol ar lefel strategol, gan sicrhau bod ein hisadeiledd trafnidiaeth a'n defnydd tir yn cyd-fynd ag anghenion ein cymunedau a'r rhanbarth ehangach. 

Yn ogystal â'r dyletswyddau statudol hyn, mae gan y Cyd-bwyllgorau Corfforedig fandad i hyrwyddo lles economaidd. Mae'r sylw ar les economaidd yn hanfodol gan ei fod yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi a gwella datblygiad economaidd rhanbarthol. Mae hyn yn golygu gweithio gyda'n Cynghorau cyfansoddol, sy'n cadw eu pwerau lles economaidd, i gytuno ar sut y gallwn ychwanegu gwerth gwirioneddol ar lefel ranbarthol. 

Mae ein dull yn seiliedig ar ymdeimlad cryf o ddatblygiad rhanbarthol, o fewn trafnidiaeth, defnydd tir, a thwf economaidd, gyda’r themâu hyn oll yn dod at ei gilydd fel diagram Venn taclus. Mae'r cydrannau yn creu un system gydlynol gyda'r amcan o sicrhau bod y Gogledd mewn safle da i ddarparu'r sgiliau, y gyflogaeth a'r cyfleoedd economaidd sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol llewyrchus. 

Elfen allweddol i lwyddiant ein Cyd-bwyllgor Corfforedig fydd y gallu i hwyluso penderfyniadau cydweithredol ar draws ffiniau. Yn wahanol i un cyngor, allai fod wedi'i gyfyngu yn ei ffocws gan ei awdurdodaeth, mae'r CBC yn caniatáu i ni edrych ar y cyd y tu hwnt i'r ffiniau, a chydnabod bod yr economi yn gweithredu ar raddfa llawer ehangach ac yn cwmpasu ystod eang o ran-ddeiliaid. 

Cryfderau unigryw ein Cyd-bwyllgor Corfforedig yw ei allu i gyfethol aelodau, gan gyfrannu safbwyntiau ac arbenigeddau amrywiol er mwyn gwella ein cynllunio strategol. Mae'r natur gynhwysol yn gyfle heb ei ail i lunio dyfodol ein rhanbarth ar lefel fwy cynhwysfawr. 

Er bod cydweithredu yn derm a ddefnyddir yn aml mewn polisi cyhoeddus, mae cydweithio da yn gofyn am ymdrech ac ymrwymiad sylweddol, yn enwedig mewn cyd-destun gwleidyddol lle bydd penderfyniadau yn cael eu gyrru'n aml gan yr angen i sicrhau gwerth mewn meysydd penodol. 

Fodd bynnag, pŵer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yw ei allu i ddod â'r gwahanol rannau cysylltiedig o'r system ynghyd, gan hwyluso deialog a sefydlu blaenoriaethau a rennir. Mae'r dull cydweithredol hwn yn ein galluogi i ddefnyddio ein hadnoddau ar y cyd yn fwy effeithiol, gan arwain yn y pen draw at well gwasanaethau rheng-flaen i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus. 

Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau ein bod ni, gyda'n gilydd, yn dod â buddion parhaol i bobl a chymunedau'r Gogledd.