Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn lansio cyfres podlediad newydd sy'n archwilio'r cyfleoedd sy'n cael eu datgloi ar gyfer ffyniant y rhanbarth yn y dyfodol. 

Mae’r gyfres yn dechrau gyda bennod sy’n canolbwyntio ar Gronfa Ynni Glân Gogledd Cymru gwerth £24.6 miliwn, sydd wedi’i chynllunio i fod yn gam mawr tuag at gyflymu’r broses o drawsnewid y rhanbarth i economi carbon isel. Fel rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru, bydd y Gronfa’n cefnogi sefydliadau preifat a gwirfoddol i gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni, storio ynni, a datgarboneiddio.

Mae Gemma Casey, golygydd Business News Wales, yn cyflwyno’r bennod gyntaf ac yn cael ei chyd-gyflwyno gan Matt Popple, Rheolwr Partneriaethau a Phrosiectau yn UMi, Alun Jones, Pennaeth Buddsoddi Cymdeithasol yn WCVA, a Meghan Davies, Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net yn Uchelgais Gogledd Cymru.

Cynhyrchir y gyfres podlediad mewn cydweithrediad â Business News Wales fel rhan o’i wasanaeth cynhyrchu podlediadau arbenigol. Mae ar gael ar bob prif blatfform, gan gynnwys Apple Podcasts a Spotify.

quotation graphic

Dywedodd Alwen Williams, Prif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru:

“Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gyfrifol am gyflawni Cynllun Twf y rhanbarth sydd yn gweithio i sicrhau bod Gogledd Cymru yn gysylltiedig - drwy gysylltedd a seilwaith digidol gwell, yn flaengar drwy hyrwyddo ymchwil a manteisio ar arloesedd yn sectorau gwerth uchel y rhanbarth, yn wydn drwy greu swyddi gwerth uchel gan roi rheswm i bobl ifanc aros, a chynaliadwy drwy amddiffyn yr amgylchedd a datblygu’n gyfrifol.

“Mae’r gyfres bodlediad hon yn archwilio’n fanwl lawer o’r prosiectau allweddol sy’n canolbwyntio ar wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru, a’r cyfleoedd i fusnesau a sefydliadau ar draws sectorau ac o bob maint gymryd rhan.”

quotation graphic