Mae'r gwaith o ddarparu cyllid a fydd yn cefnogi prosiectau ynni gwyrdd ar draws Gogledd Cymru bellach gam yn nes gan fod dau Gynghorydd Cronfa profiadol wedi'u penodi.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi penodi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ac UMi, yn dilyn proses gaffael gystadleuol, i baratoi a defnyddio ei Gronfa Ynni Glân a gaiff ei lansio y flwyddyn nesaf. 

Bydd y gronfa yn cynnwys dwy is-gronfa, gyda CGGC yn gweithio ar y cyd ag Ynni Cymunedol Cymru ar is-gronfa'r sector gwirfoddol; ac UMi yn arwain yr is-gronfa sy'n targedu'r sector preifat.  

Mae prosiect y Gronfa Ynni Glân yn rhan o Gynllun Twf y rhanbarth sy'n cael ei gyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru. Bydd yn anelu i gefnogi mentrau sy'n helpu i gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio ac sydd ag elfen o berchnogaeth leol - sy'n golygu y bydd asedau sy'n eiddo i randdeiliaid sydd wedi'u lleoli ac sy'n gweithredu yn y rhanbarth yn elwa, boed hynny'n busnesau, cymunedau neu'n sefydliadau sector gwirfoddol, yn amodol ar gymhwysedd. 

Bydd y prosiect yn dyrannu £25m mewn grantiau a benthyciadau ar draws y rhanbarth. Bydd £5m wedi'i dargedu at y sector gwirfoddol a £15m ar gyfer y sector preifat y disgwylir iddo gael ei ddyrannu i raddau helaeth drwy fenthyciadau. Bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn cadw'r £5m sy'n weddill i ddechrau i'w ddefnyddio'n hyblyg i ychwanegu at y cronfeydd neu i gefnogi prosiectau ynni glân ar raddfa fawr yn uniongyrchol. 

Mae'r ddau Gynghorydd Cronfa bellach yn paratoi'r is-gronfeydd, a fydd angen cymeradwyaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru y flwyddyn nesaf, cyn gallu lansio'r Gronfa. Yna, bydd CGGC ac UMi yn cynnal y prosiect dros gyfnod o 5 mlynedd i ddechrau - gwaith a fydd yn cynnwys cyrchu ac argymell buddsoddiadau, diwydrwydd dyladwy yn ogystal â monitro cynnydd a pherfformiad pob grant a benthyciad. 

quotation graphic

Dywedodd Sandra Sharp, Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda sefydliadau mor uchel eu parch a pherthnasol ar sefydlu a chyflwyno'r Gronfa Ynni Glân. Mae'r ddau Gynghorydd Cronfa yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth berthnasol wrth ymgymryd â chronfeydd tebyg a chreu buddion cydnaws fel mewnfuddsoddi. Mae CGGC wedi bod wrth wraidd cefnogi'r sector gwirfoddol yng Nghymru ers amser maith ac mae gan UMi arbenigedd cryf, eang, gan gynnwys cyflawni prosiect tebyg yn llwyddiannus yn yr Alban. 

 

"Bydd y gronfa yn gweithredu fel catalydd, gan alluogi i brosiectau ynni gwyrdd gael eu rhoi ar waith a helpu i ddatgloi buddsoddiad preifat a chymunedol - gan felly wneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i Ogledd Cymru." 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Nicki Clark o UMi:

"Rydym yn credu'n angerddol bod gan fusnesau y pŵer i wneud gwahaniaeth. Rydym yn mesur ein llwyddiant ein hunain ar dri maen prawf - p'un a ydym yn weithle lle mae talent yn ffynnu, iechyd ein mantolen hirdymor a'r effaith a gawn ar y byd o'n cwmpas. Dyna pam ein bod ni'n teimlo'n hynod o gyffrous a breintiedig o gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru a CGGC, i alluogi i sefydliadau yng Ngogledd Cymru greu effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol go iawn a pharhaol drwy fabwysiadu ynni glân a chynaliadwy." 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Alun Jones, Pennaeth Buddsoddiad Cymdeithasol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Mae pob busnes cymdeithasol yn gweithio i gyflawni’r ‘llinell waelod driphlyg’ o bobl, elw a’r blaned ac maen nhw ond yn rhy ymwybodol o’r cyfrifoldebau sydd ganddyn nhw wrth gefnogi’r agenda datgarboneiddio. Mae'r gronfa hon yn cynnig cyfle enfawr iddynt gael mynediad at gyllid i wireddu eu cynlluniau. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at helpu i gefnogi rhai prosiectau diddorol ac effeithiol.” 

quotation graphic