Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru - trefnwyr cynhadledd ‘Taclo Heriau Sgiliau a Gweithlu’, yn falch o gyhoeddi rhestr o siaradwyr fydd yn rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd gyda mynychwyr.
Mae'r digwyddiad, yn Venue Cymru, Llandudno ar Ebrill 26ain, yn addo cyfleoedd gwerthfawr i gyflogwyr Gogledd Cymru i ddysgu a rhwydweithio gyda chyfoedion a bydd amser hefyd i ymgysylltu ag arweinwyr a chlywed y safbwyntiau diweddaraf ar sut i fynd i'r afael â rai o'r heriau allweddol sy'n wynebu busnesau wrth iddynt recriwtio, datblygu a chadw talent.
Dan gadeiryddiaeth cyn-newyddiadurwr y BBC, Bethan Williams Price, mae siaradwyr a phanelwyr ar gyfer y digwyddiad hefyd yn cynnwys:
- Craig Weeks - Cyfarwyddwr Gweithrediadau, JCB (Prif siaradwr)
- Alwen Williams - Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru
- Nia Bennet – Cyfarwyddwr, Effectus HR / Cadeirydd, Urdd Gobaith Cymru
- Mike Learmond - Uwch Reolwr Datblygu Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach
Mae sesiynau grwp hefyd wedi eu cadarnhau:
- Datblygu Pobl a Gweithlu: Y Dull Strategol gyda Dafydd Bowen, Menter a Busnes
- Gen Z a thu hwnt gyda Lesley Richards, Pennaeth CIPD Cymru
- Cryfhau Ymgysylltu gyda Gweithlu gyda David Roberts, David Roberts - Cadeirydd, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae cofrestru yn rhad ag am ddim ac yn agored i fusnesau a sefydliadau o unrhyw faint mewn unrhyw sector. I sicrhau lle yn y gynhadledd https://tinyurl.com/zjnkbe33.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gysylltu ag arbenigwyr a chyd-weithwyr proffesiynol. Rhowch y Ebrill 26ain yn eich dyddiadur ac ymunwch â ni yn Venue Cymru ar gyfer digwyddiad sy'n siwr o ysbrydoli.
I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan yn eu gwaith ewch i www.partneriaethsgiliaugogledd.cymru neu e-bostiwch info@rspnorth.wales.