Cyhoeddwyd mai Theatr Clwyd yw’r partner cyswllt diweddaraf mewn prosiect £19m i hybu sgiliau lletygarwch a thwristiaeth ar draws gogledd Cymru.

Fel rhan o'r Rhwydwaith Talent Twristiaeth , a arweinir gan Grŵp Llandrillo Menai, bydd yn helpu i ddarparu hyfforddiant o'r radd flaenaf, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ar draws y rhanbarth.  

Bydd Theatr Clwyd yn ymuno â dau bartner 'Lloeren' arall sydd eisoes yn cydweithio, sef Zip World a Portmeirion. Y bwriad yw penodi ‘Lloeren' arall yn ddiweddarach y flwyddyn hon. Mae'r cyd-weithio hefyd yn cynnwys partneriaethau strategol gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd. 

Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru, a arweinir gan Uchelgais Gogledd Cymru, wedi ymrwymo £4.43m fel rhan o'r prosiect - gydag 'Lloerenni' yn derbyn grant £1m yr un o'r buddsoddiad. 

Bydd pob partner yn cydweithio'n agos â'r Ganolfan Ragoriaeth ar gampws Coleg Llandrillo – gan greu rhwydwaith o ddatblygiadau o'r radd flaenaf i ddod yn angorau ar gyfer darparu hyfforddiant pwrpasol, prentisiaethau a chymorth sgiliau arbenigol arall. 

Bydd Theatr Clwyd, sydd newydd ei hail-ddatblygu, yn chwarae rhan allweddol yn y Rhwydwaith Talent Twristiaeth, gan gynnig ystod amrywiol o gyfleoedd hyfforddi ar draws y sector ymwelwyr, twristiaeth celfyddydau a diwylliant, a lletygarwch – o farchnata a chyfathrebu; i reoli dyletswyddau; gwerthu, rheoli digwyddiadau, a chyfleoedd o fewn eu cynigion lletygarwch ac arlwyo newydd. 

Fel partner ‘Lloeren’ dynodedig, bydd Theatr Clwyd hefyd yn darparu o leiaf 50 o brentisiaethau dros y 10 mlynedd nesaf, wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y sector cyfan a rhai penodol i fusnesau ar draws pob maes darparu sy’n ymwneud â’r celfyddydau, twristiaeth a lletygarwch. 

quotation graphic

Dywedodd y Cyng. Charlie McCoubrey, Aelod Arweiniol Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Fel partner Lloeren allweddol, bydd Theatr Clwyd yn chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo manteision craidd ac ehangach y Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Bydd ei chyfraniad yn eang, gyda phwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau, creu swyddi a datblygu arloesedd yn agweddau diwylliannol a chreadigol y sector lletygarwch a thwristiaeth. Gyda’i chyfleusterau newydd anhygoel a’r gwaith ail-ddatblygu cyson yno, Theatr Clwyd yw’r Lloeren perffaith i ysbrydoli a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o dalent. 

"Bellach, mae gennym bump partner Lloeren cryf a fydd yn chwarae eu rhan unigol wrth ysbrydoli talent newydd i ymuno â'r sector lletygarwch a thwristiaeth, ac yn gwarchod iaith, diwylliant a threftadaeth gyfoethog gogledd Cymru hefyd." 

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd Aled Jones Griffiths, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

“Gan gydnabod maint ac ansawdd unigryw'r sector twristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru, ein gweledigaeth erioed fu hyrwyddo'r rhanbarth fel arweinydd mewn arloesedd twristiaeth a lletygarwch cynaliadwy. Rydym wrth ein bodd yn croesawu Theatr Clwyd fel partner Lloeren - sefydliad sy'n gyfoethog mewn celfyddydau, diwylliant, a dathliad gwirioneddol o greadigrwydd. Mae eu cyfranogiad yn dod â dimensiwn diwylliannol cyffrous i'r prosiect uchelgeisiol hwn, ac rydym yn hyderus y bydd yn gwella'r manteision economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol parhaol yr ydym yn gweithio i'w cyflawni ar gyfer Gogledd Cymru." 

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd Liam Ford-Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Swyddog Gweithredol Theatr Clwyd:

"Mae'n anrhydedd wirioneddol i Theatr Clwyd ymuno â Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Bydd ein cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf yng Ngogledd Cymru yn denu cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, ond maent ar gyfer ein cymunedau lleol. Trwy ein darpariaeth gelfyddydol a diwylliannol, ein sgiliau cynhyrchu theatr o ansawdd uchel, ein cynnig bwyd a diod, ein rhedeg Neuadd William Aston yn Wrecsam a hefyd drwy gyfleoedd hyfforddiant a swyddi, byddwn yn gweithio gyda'r partneriaid eraill i barhau i wneud y rhanbarth yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr, ac yn lle cynyddol fywiog i fyw a gweithio ynddo." 

quotation graphic