Cyllid Lansio Tech-Bwyd-Amaeth newydd yn agor

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn galw ar Arloeswyr Technoleg-Amaeth a Bwyd ar draws y rhanbarth i ymchwilio i'w cymhwysedd ar gyfer rownd newydd o gyllid.

Gall busnesau micro, bach neu ganolig nawr wneud cais am grantiau rhwng £25,000 a £100,000 i ysgogi arloesedd a chael effaith barhaol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae Innovate UK, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, yn gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru, Tyfu Canolbarth Cymru a Llywodraeth Cymru i fuddsoddi hyd at £1.5 miliwn mewn prosiectau arloesi.

Daw’r cyllid hwn o raglen Bwynt Lansio Innovate UK sy’n cefnogi nodau llywodraeth y DU ar gyfer twf economaidd lleol.

Nod y gystadleuaeth, a fydd yn cau am 11:00am ddydd Mercher 11 Rhagfyr, yw cefnogi prosiectau arloesi rhagorol a arweinir gan fusnesau. Rhaid i’r rhai sy’n gwneud cais ddefnyddio’r cyllid i dyfu eu gweithgareddau arloesi yn y clwstwr technoleg-amaeth a thechnoleg bwyd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, yn ystod ac ar ôl eu prosiectau.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i: