Gall y rhanbarth gael budd o gysylltedd symudol cryfach yn dilyn cymeradwyo achos busnes llawn prosiect 4G+ y Cynllun Twf, sy'n cael ei redeg gan Uchelgais Gogledd Cymru.
Yn rhan o Raglen Cysylltedd Digidol y sefydliad, y nod yw mynd i'r afael â heriau darpariaeth symudol sydd wedi bodoli ers amser ar draws lleoliadau allweddol, ac uchafu buddiannau economaidd ar gyfer y rhanbarth.
Cymeradwywyd yr achos ar gyfer y prosiect £6.17miliwn gan Uchelgais Gogledd Cymru ac mae'n arwain y ffordd ar gyfer gwelliannau mewn darpariaeth a pherfformiad rhwydweithiau 4G. Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi ehangu rhwydweithiau 5G ar draws y rhanbarth.
Dros bum mlynedd, bydd y prosiect yn hyrwyddo'r defnydd o isadeiledd sector cyhoeddus gan weithredwyr rhwydwaith i ehangu eu darpariaeth, yn ogystal â darparu buddsoddiad i gefnogi gwelliannau i isadeiledd digidol a chynyddu ymgysylltiad â'r diwydiant telathrebu.
Mae tua 79% o ddaearyddiaeth gogledd Cymru yn derbyn 4G gan y pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol o gymharu â chyfartaledd y DU o 88%. Gyda tharged uwch fyth o 95% gan lywodraeth y DU, mae cymeradwyo buddsoddiad y Cynllun Twf yn cael ei groesawu’n fawr.
Dywedodd Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Is-bwyllgor Lles Economaidd Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:
"Mae gwasanaethau data a llais symudol dibynadwy yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer busnesau a'r economi, ond hefyd ar gyfer y sector cyhoeddus ac aelwydydd. Roeddem yn falch o gymeradwyo'r achos busnes llawn, gan ein galluogi i symud ymlaen gyda'r prosiect hanfodol hwn.
"Mae manteision y prosiect ar gyfer yr economi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, gan yrru cysylltedd symudol cynyddol, sydd yn ei dro yn rhoi hwb i gyflogaeth a denu buddsoddiad pellach."
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Arweiniol Rhaglen Cysylltedd Digidol Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â mwy na gwella signalau yn unig – mae’n ymwneud â datgloi cyfleoedd mewn meysydd allweddol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ar hyn o bryd. Mae angen i ni sicrhau bod mwy o chwarae teg fel bod gan Ogledd Cymru’r seilwaith i ffynnu yn yr oes ddigidol.”
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
"Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn nodi cam arwyddocaol ymlaen tuag at gryfhau cysylltedd digidol ar draws gogledd Cymru. Drwy wella darpariaeth 4G a chefnogi ehangu 5G, bydd yn helpu i ymdrin â heriau isadeiledd sydd wedi dal twf economaidd a chynhwysiant digidol yn ôl yn y rhanbarth.
"Mae cysylltedd symudol dibynadwy yn hanfodol yn y byd ohoni. Bydd y prosiect hwn yn cefnogi busnesau i arloesi a thyfu tra hefyd yn grymuso trigolion i gael mynediad at wasanaethau ar-lein hanfodol a chysylltu â ffrindiau a theulu."
Dywedodd Y Fonesig Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru:
"Fel rhan o'n Cynllun ar gyfer Newid, rydym yn cyflawni swyddi a buddsoddiad i bob rhan o Gymru, gan gynnwys gwelliannau mewn cysylltedd symudol drwy ein cyllid o Gynllun Twf Gogledd Cymru.
"Mae cysylltiadau digidol dibynadwy a chyflym yn hynod o bwysig ar gyfer aelwydydd a busnesau ar draws y Gogledd, drwy helpu i yrru twf economaidd, hybu twristiaeth a gwella amser hamdden ar gyfer trigolion lleol."