Mae Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol gan lywodraethau'r DU a Chymru – gan nodi dechrau rhaglen 10 mlynedd a fydd yn rhoi hwb i'r economi ranbarthol. 

Bydd gwaith nawr yn dechrau o ddifrif, gyda rhaglen o grantiau, hyfforddiant, gwelliannau seilwaith a chymorth busnes yn helpu i ddatgloi cyfleoedd newydd i gyflogwyr, buddsoddwyr a chymunedau lleol. 

quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a Chadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru, y corff strategol sy'n cydlynu'r gwaith: 

"Trwy ganolbwyntio ar Weithgynhyrchu Uwch, Arloesi, Sgiliau a Seilwaith, bydd y Parth Buddsoddi yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru twf economaidd cynaliadwy. 

"Bydd yn helpu i greu swyddi o ansawdd uchel a chryfhau sefyllfa'r rhanbarth fel pwerdy ar gyfer diwydiant datblygedig yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn bod llywodraethau'r DU a Chymru wedi rhoi eu cymeradwyaeth ffurfiol. Dyma ddechrau taith gyffrous iawn i Sir y Fflint a Wrecsam." 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 

"Mae hwn yn gam hynod gadarnhaol, a bydd y Parth Buddsoddi newydd yn rhoi llwyfan i ni ddenu buddsoddiad, syniadau a chyfleoedd newydd – cefnogi busnesau, creu swyddi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.  

"Mae gan Sir y Fflint a Wrecsam sylfaen anhygoel eisoes o wneuthurwyr arloesol, o'r radd flaenaf, a bydd y Parth Buddsoddi yn ein galluogi i adeiladu ar hyn a helpu i ddatgloi potensial enfawr y rhanbarth." 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Bydd Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cyflawni ein Cenhadaeth Economaidd trwy ddenu buddsoddiad mawr, creu miloedd o swyddi sy’n talu’n dda, a chadarnhau enw da’r rhanbarth fel canolbwynt ar gyfer gweithgynhyrchu uwch ac arloesi.  
 
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn benllanw gwaith partneriaeth helaeth gan bartneriaid rhanbarthol a’r llywodraeth, ac mae’n gyfle enfawr i ddatgloi twf a sicrhau manteision sylweddol i fusnesau a chymunedau’r ardal.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Jo Stevens: 

“Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £160 miliwn yn y Parth Buddsoddi hwn i gynyddu twf economaidd, ysgogi buddsoddiad preifat a chreu miloedd o swyddi newydd â chyflogau da a fydd yn rhoi arian ym mhocedi pobl Gogledd Cymru.  

“Mae potensial enfawr ar gyfer twf ac ar gyfer adeiladu ar yr arbenigedd gweithgynhyrchu uwch sydd eisoes yn bodoli yn y rhan hon o Gymru. Rwy’n falch iawn ein bod yn symud ymlaen gyda’r rhaglen a fydd yn cael effaith drawsnewidiol i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng ngogledd ddwyrain Cymru.” 

quotation graphic

Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu wrth i wahanol grantiau, rhaglenni hyfforddi a chyfleoedd eraill ddod ar-lein.  

I gadw i fyny, ewch i wefannau Cyngor Sir y Fflint a Cyngor Wrecsam.