Mae Porth Busnes arfaethedig Prifysgol Wrecsam wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, drwy gael cymeradwyaeth ffurfiol o'i Achos Busnes Amlinellol (OBC) gan Uchelgais Gogledd Cymru.
Bydd y fenter sydd werth £22.9 miliwn yn hyrwyddo cydweithio ac yn sefydlu pwynt mynediad i fusnesau at arbenigedd, ymchwil a chymorth arbenigol y Brifysgol. Bwriad y Porth yw cynorthwyo i fynd i'r afael â heriau rhanbarthol ynghylch cynhyrchiant a sgiliau arbenigol gan ganolbwyntio'n benodol ar arloesi a meysydd twf gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI).
Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni mewn dau gam, gan ddechrau gyda datblygu canolfannau deori newydd yn 2027, ac yna adeiladu adeilad newydd, pwrpasol i'r Porth. Disgwylir iddo agor ym mis Medi 2028, ac mae caniatâd cynllunio eisoes wedi ei dderbyn ar gyfer y prosiect.
Mae'r Achos Busnes Amlinellol a gymeradwywyd yn nodi pecyn cyllido o ychydig dros £7 miliwn o Gynllun Twf Gogledd Cymru, £4 miliwn o Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam ac £1.5 miliwn o MEDR (Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chyllid cyfatebol gan y Brifysgol. Disgwylir i'r prosiect greu dros 130 o swyddi newydd a chyfrannu rhwng £77m a £94m yn rhagor o Werth Ychwanegol Gros i'r rhanbarth.
Yn ôl yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam:
"Mae'r Porth Busnes yn gam arwyddocaol yn ein cenhadaeth fel prifysgol ddinesig fodern. Bydd yn darparu drws ffrynt clir, croesawgar i fusnesau ac entrepreneuriaid gael mynediad at ein harbenigedd, ein cyfleusterau a'n rhwydweithiau. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ar draws pob sector i gyflawni prosiect sy'n cefnogi arloesi, yn creu cyfleoedd ac a fydd yn dod â manteision gwirioneddol i'r rhanbarth."
Meddai'r Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel y Cynllun Twf:
"Mae hwn yn gynnig uchelgeisiol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi gogledd Cymru. Bydd y Porth Busnes yn dod â diwydiant a'r byd academaidd yn agosach at ei gilydd, gan hyrwyddo arloesedd, datblygu sgiliau a thwf busnes. Rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yma ac edrychaf ymlaen at weld cam nesaf y datblygiad cyffrous hwn."
Meddai'r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru – sy'n gweithio mewn partneriaeth â chynghorau Sir y Fflint a Wrecsam i ddarparu Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam:
"Mae'r ffaith y bydd y prosiect hwn yn bosib gyda chyllid o'r Cynllun Twf a'r Parth Buddsoddi yn dangos ein cydweithrediad rhanbarthol ar waith. Drwy weithio'n agos gyda phartneriaid, gall prosiectau fel y Porth Busnes symud tuag at gyflawni a bydd gogledd Cymru yn elwa’n fawr."
Gyda chymeradwyaeth Achos Busnes Amlinellol bellach wedi'i sicrhau, bydd y Brifysgol yn symud i'r cam caffael ac yn dechrau datblygu'r Achos Busnes Llawn i'w ystyried yn ddiweddarach yn 2026.